Ganed Mary Gillham yn un o faestrefi Llundain, a gwasanaethu am bum mlynedd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd ym Myddin Merched y Tir gan weithio ar sawl fferm.[2]
Cafodd Gillham ei geni a'i magu yn Ealing, gorllewin Llundain ar 26 Tachwedd 1921 i'w mam Edith Gertrude a'i thad Charles Gillham, athro ysgol uwchradd. Roedd y teulu'n byw yn Birbeck Road yn South Ealing a mynychodd ysgolion yn Ealing.[3] Ym 1927 symudodd y teulu i dŷ newydd ei adeiladu ym Mharc Gunnersbury, a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Popes Lane, lle bu’n byw nes iddi symud i Gymru ym 1962.
Treuliodd lawer o'i hamser yng Nghymru. Fel myfyriwr ar ôl y rhyfel ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth a Bangor, enillodd radd mewn amaethyddiaeth, anrhydedd dosbarth cyntaf mewn botaneg, a PhD mewn ecoleg ynys.[4]
Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Caerwysg (Dyfnaint), Massey (Seland Newydd), Melbourne (Awstralia), Kano (Nigeria), a bu’n gweithio yn yr Adran Addysg Oedolion yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1961 hyd nes iddi ymddeol ym 1988.[5]
Fel athrawes naturiaethwyr amatur (oedolion), gwelodd ei rôl fel dehonglydd data gwyddonol ar gyfer y lleygwr, ac aeth ati i ysgrifennu llyfrau ac erthyglau poblogaidd. Arbenigai ar gytrefi adar glan y môr, ac aeth ymchwil ar y rhain â hi i ynysoedd anghysbell mewn sawl rhan o'r byd, lle mae hi wedi byw mewn pebyll, cytiau, goleudai, ac ati. Roedd ei phrosiectau ymchwil pwysicaf o amgylch arfordiroedd gorllewin Cymru. (ei thesis PhD), Awstralia, Seland Newydd, a De Affrica, ac roedd hi'n un o'r menywod cyntaf i ymuno ag alldaith i'r Antarctig, ym 1959-60.[6][7]
1963 – Sea-Birds. (Instructions to Young Ornithologists IV). Museum Press: London.
1966 – A Naturalist in New Zealand. Museum Press: London.
1967 – Sub-Antarctic Sanctuary: Summertime On Macquarie Island. Victor Gollancz: London.
1977 – The Natural History of Gower. D. Brown and Sons Ltd: Cowbridge.
1982 – The Historic Taf Valleys, Volume 2: In the Brecon Beacons National Park. Geology, Social History, Natural History. Merthyr Tydfil and District Naturalists' Society. (Gyda John Perkins a Jack Evans). ISBN0-905928-21-0
1982[dolen farw] – Swansea Bay's Green Mantle. Wildlife on an Industrial Coast. D. Brown & Sons: Cowbridge. ISBN0-905928-18-0
1987 – Sand Dunes. (Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series Volume 1). Glamorgan Wildlife Trust: Pen-y-bont ar Ogwr.
1994 – Sea Cliffs Cwm Mawr to Gileston. (Glamorgan Heritage Coast Wildlife Series Volume 5). Glamorgan Wildlife Trust: Pen-y-bont ar Ogwr.
1998 – Town Bred – Country Nurtured: A Naturalist Looks Back Fifty Years. ISBN0-9534074-0-3
2000 – Island Hopping in Tasmania's Roaring Forties. A.H. Stockwell Ltd: Dyfnaint. ISBN0-7223-3296-3
2000 – Islands of the Trade Winds: An Indian Ocean Odyssey. Minerva Press. ISBN0-7541-0857-0
2001 – The Garth Countryside: Part of Cardiff's green mantle, A Natural History. Lazy Cat Publishing: Caerdydd. ISBN0-9537707-0-2
2002 – A Natural History of Cardiff: Exploring along the River Taff, being an account of the animal and plant life in and around our capital city, Volume 2. Lazy Cat Publishing: Caerdydd.
2004 – A Natural History of Cardiff: Exploring along the Rivers Rhymney and Roath. Dinefwr Publishers Ltd: Wales. ISBN1-904323-11-1