Maryse Condé

Maryse Condé
Maryse Condé yn 2006.
GanwydMarise Liliane Appolline Marcelle Boucolon Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Pointe-à-Pitre Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 2024 Edit this on Wikidata
Apt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, academydd, awdur plant, ysgolhaig llenyddol, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amQ21009422 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Cymrodoriaeth Guggenheim, Grand Prix du roman Métis, Prif Wobr Glas y Metropolis, New Academy Prize in Literature, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Officier de la Légion d'honneur, Anaïs Ségalas Prize, Prix Carbet de la Caraïbe et du Tout-Monde, Prix Tropiques, Hurston-Wright Legacy Award, Ysgoloriaethau Fulbright Edit this on Wikidata

Nofelydd a dramodydd o Guadeloupe yn yr iaith Ffrangeg oedd Maryse Condé (11 Chwefror 19342 Ebrill 2024) sydd yn nodedig am ei ffuglen hanesyddol epig, gydag Affrica yn gefndir i nifer o'i straeon.[1]

Ganed hi yn Pointe-à-Pitre, Guadeloupe, yn y Caribî, pan oedd yr ynys yn un o drefedigaethau Ymerodraeth Ffrainc ond nid eto yn rhan hanfodol o Ffrainc. Symudodd i la Métropole yn ei harddegau i astudio. Aeth i Orllewin Affrica yn ystod ei hugeiniau a gweithiodd yn athrawes yng Ngini, Ghana, a Senegal o 1960 i 1968.

Mae ei ddwy nofel gyntaf, Hérémakhonon (1976) ac Un Saison à Rihata (1981), yn seiliedig ar ei phrofiadau yn Ghana a'i hymdrechion i uniaethu ag Affrica. Ni chafodd fawr o lwyddiant gyda'r rheiny, ond daeth i'r amlwg gyda'i champwaith Ségou (1984) a'r dilyniant Ségou II (1985), a osodir yn Ymerodraeth Ségou yn y cyfnod 1797–1860 o hanes Mali.

Mae'r nofel Moi, Tituba, sorcière—: noire de Salem (1986) yn ymwneud â chaethwas a gafodd ei chyhuddo o fod yn wrach yn nhreialon Salem, Massachusetts, yn yr 17g. Dychwelodd Condé i Guadeloupe ym 1986, a gosodir ei nofel La Vie scélérate (1987) yno. Mae ei nofelau diweddarach yn cynnwys La Colonie du nouveau monde (1993), La Migration des coeurs (1995; addasiad Caribïaidd o Wuthering Heights gan Emily Brontë), Desirada (1997), Historie de la femme cannibale (2003), a Victoire, les saveurs et les mots (2006).

Yn ogystal â'i nofelau, ysgrifennodd Condé wyth o ddramâu, llyfrau i blant, dau hunangofiant, ac ysgrifau ar bynciau llenyddol a gwleidyddol. Yn 2018, wedi i Wobr Lenyddol Nobel gael ei gohirio oherwydd sgandal, dyfarnwyd Condé yn enillydd Gwobr Lenyddol Newydd yr Academi, a sefydlwyd dros dros fel gwobr amgen. Yn ei henaint, ymsefydlodd Maryse Condé ym Mhrofens, a bu farw yng nghymuned Apt, yn Vaucluse, yn 90 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Maryse Condé. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2024.