Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth gwe, meddalwedd am ddim, rhwydwaith cymdeithasol a rennir, fediverse server software, cymuned arlein |
---|---|
Rhan o | Fediverse |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dyddiad cyhoeddi | 5 Hydref 2016 |
Dechrau/Sefydlu | 16 Mawrth 2016 |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Gwefan | https://joinmastodon.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Mastodon yn feddalwedd cod agored am ddim ar gyfer gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol hunangynhaliol. Mae ganddo nodweddion meicroblogio, a gynigir gan nifer fawr o nodau annibynnol, pob un â'i god ymddygiad ei hun, telerau gwasanaeth, polisi preifatrwydd, opsiynau preifatrwydd, a pholisïau cymedroli.[1] [2] [3]
Mae pob defnyddiwr yn aelod o weinydd Mastodon penodol, sy'n gallu rhyngweithio fel rhwydwaith cymdeithasol ffederal, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ar wahanol gweinyddion ryngweithio â'i gilydd. Bwriad hyn yw rhoi'r hyblygrwydd i ddefnyddwyr ddewis gweinydd yn ôl ei bolisïau, ond cadw mynediad at rwydwaith cymdeithasol ehangach. Mae Mastodon hefyd yn rhan o gasgliad llwyfannau'r Fediverse, sy'n rhannu protocolau i alluogi ddefnyddwyr Mastodon ryngweithio â defnyddwyr ar lwyfannau cydnaws,[4] megis PeerTube a Friendica.
Mae Mastodon yn cael ei ariannu yn dorfol a nad yw'n cynnwys hysbysebion.
Mae masgot Mastodon yn anifail â boncyff, sy'n debyg i fastodon neu famoth. Weithiau, darlunir y masgot â thabled neu ffôn clyfar. Defnyddiwyd "toots" (neu "tŵts") yn y gorffennol i olygu negeseuon ar y gwasanaeth, ond defnyddir "postiadau" bellach.[5] Crëwyd Mastodon gan Eugen Rochko a chyhoeddwyd y gwasanaeth ar Hacker News yn Hydref 2016.[6]