Matthew Tindal | |
---|---|
Ganwyd | 1653, 1656, 1657 Dyfnaint |
Bu farw | 16 Awst 1733 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, llenor, cyfreithegwr |
Athronydd deistaiddo Loegr oedd Matthew Tindal (1657 – 16 Awst 1733).
Mab ydoedd i glerigwr yn Bere Ferrers, Swydd Ddyfnaint, lle y ganed ef. Derbyniodd ei addysg yng ngholegau Lincoln ac Exeter, Rhydychen, a chymerodd ei radd baglor yn y celfyddydau ym 1676. Yn fuan wedi hynny fe'i etholwyd yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, a graddiodd yn ddoethur yn y gyfraith ym 1685.
Ar ôl bod am ychydig yn proffesu ei hun yn Gatholig, yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II, fe droes yn ôl at Brotestaniaeth, neu yn hytrach, fel y profwyd wedi hynny, at resymoliaeth. Ysgrifennodd draethodau yn erbyn pleidwyr Iago II, ond yr yn a'i gwnaeth yn wrthrych sylw neilltuol oedd ei lyfr a elwid The Rights of the Church Asserted. Prif amcan y gwaith hwn oedd ymosod ar yr offeiriadaeth. Cododd y gwaith ystorm o wrthwynebiad iddo, a gellir ystyried, hwyrach, ei fod wedi cyflawni ei ragfynegiad ei hun, pan y dywedodd efe wrth gyfaill ei fod yn "ysgrifennu llyfr a wnâi y clerigwyr yn wallgof". Ym 1730, pan oedd ym mron wedi cyrraedd 73 oed, y cyhoeddodd ei draethawd enwocaf, o dan y teitl Christianity as old as the Creation, or the Gospel a Republication of the Religion of Nature, yr hyn a benderfynodd y cwestiwn ynghylch ei gredo ef. Yn y gwaith hwn y mae'n ymosod ar awdurdod yr Ysgrythurau. Gadawodd ail gyfrol ohono, ond ni chyhoeddwyd hi. Atebwyd ef gan Daniel Waterland, Archddiacon Middlesex, y gweinidog o Fedyddiwr James Foster, John Conybeare (yn ddiweddarach Esgob Bryste), a'r gweinidog Presbyteraidd John Leland.