Maud Gonne | |
---|---|
Ganwyd | Edith Maud Gonne 21 Rhagfyr 1866 Farnham |
Bu farw | 27 Ebrill 1953 Clonskeagh |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | actor, hunangofiannydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd |
Tad | Thomas Gonne |
Mam | Edith Cook |
Priod | John MacBride |
Partner | William Butler Yeats, Lucien Millevoye |
Plant | Seán MacBride, Georges Silvère Gonne, Iseult Gonne |
Ffeminist o Iwerddon oedd Maud Gonne (21 Rhagfyr 1866 - 27 Ebrill 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig fel actor, hunangofiannydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét. Ond, yn bennaf, hi oedd ysbrydoliaeth fawr y bardd W. E. Yeates. Sgwennodd lawer o gerddi iddi, neu sy'n ei chrybwyll, gan gynnwys This, This Rude Knocking, a sgwennodd dwy drama o barch a chariad ati: The Countess Cathleen a Cathleen ni Houlihan.[1]
Ei henw Gwyddeleg oedd Maud Nic Ghoinn Bean Mac Giolla Bhríghde. Er iddi gael ei geni yn Lloegr, bu'n lladmerydd huwadl dros Genedlaetholdeb Gwyddelig.[2][3][4][5][6][7]
Ei mam Edith Frith Gonne, born Cook (1844–71) a chapten yn '7fed Lancers' byddin Lloegr oedd ei thad, Thomas Gonne (1835–86), a hanai o linach Albanaidd a Gwyddelig. Bu farw ei mam pan oedd yn ifanc iawn a chafodd ei danfon i Ffraincc, lle mynychodd ysgol breswyl.[8]
Yn 1882 cafodd ei thad, ei ddanfon gan fyddin Lloegr i Ddulyn, ac aeth Maud Gonne gydag ef ac arhosodd gydag ef nes iddo farw. Dychwelodd i Ffrainc ar ôl dal y diciâu a syrthiodd mewn cariad â gwleidydd adain dde, Lucien Millevoye. Cytunwyd i ymladd dros annibyniaeth Iwerddon ac i adennill Alsace-Lorraine i Ffrainc. Dychwelodd i Iwerddon a gweithiodd yn ddiflino i ryddhau carcharorion gwleidyddol Gwyddelig o'r carchar. Yn 1889, cyfarfu â W. B. Yeats, a syrthiodd mewn cariad â hi.
Yn 1890 dychwelodd i Ffrainc lle cyfarfu unwaith eto â Millevoye a chawsant fab, Georges. Bu farw Georges, o bosibl o lid yr ymennydd, ym 1891. Torrodd ei chalon, a chladdodd ei mab mewn capel coffa mawr a adeiladwyd iddo gydag arian yr oedd wedi'i etifeddu.
Sefydlodd fudiad Inghinidhe na hÉireann gyda'r bwriad o wrthsefyll ymdrech y Sais i ddileu etifeddiaeth Gwyddelig."Bureau of military history" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-07-14. Cyrchwyd 10 Ionawr 2017.</ref>[9]
Yn 1897, ynghyd â Yeats ac Arthur Griffith, trefnodd brotestiadau yn erbyn Jiwbilî Ddiemwnt Brenhines Victoria. Ym mis Ebrill 1902, cymerodd ran flaenllaw yn nrama Yeats, Cathleen Ní Houlihan. Portreadodd Cathleen "hen wraig Iwerddon", sy'n galaru am ei phedwar talaith, a gollwyd i'r Saason.[10]
Gwrthododd lawer o gynigion gan Yeats i'w phriodi, nid yn unig oherwydd ei fod yn anfodlon trosi i Gatholigiaeth ond hefyd oherwydd ei bod yn ei ystyried genedlaetholdeb yn rhy llugoer, ac oherwydd ei bod yn credu bod ei gariad di-ildio ati wedi bod yn deillio o'i farddoniaeth ac y byddai'r byd, rhyw ddydd, yn diolch iddi am beidio â rhoi cadwynnau am ei awen.[11] |100|100|}}
Bu'n aelod o Urdd Meudwy'r Wawr Aur am rai blynyddoedd.