Maurice Barrès | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1862 Charmes |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1923 Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, seat 4 of the Académie française |
Plaid Wleidyddol | Boulangism, Republican Federation |
Mudiad | Symbolaeth (celf) |
Plant | Philippe Barrès |
Gwobr/au | Gwobr Alfred Née |
Awdur a gwleidydd Ffrengig oedd Maurice Barrès (19 Awst 1862 – 5 Rhagfyr 1923).
Ganed ef yn Charmes yn département Vosges. Addysgwyd ef yn Nancy, mewn lycée ac yna'r brifysgol. Symudodd i ddinas Paris yn 1882, lle sefydlodd gylchgrawn Les Taches d'Encre yn 1884. Daeth yn adnabyddus pan gyhoeddwyd tair cyfrol o nofelau hunagofiannol Le Culte du moi rhwng 1888 a 1891. Etholwyd ef yn aelod o'r Académie française yn 1906.
Roedd hefyd yn amlwg yn wleidyddol, gan roi pwyslais ar genedlaetholdeb Ffrengig. Gwrthwynebai'r duedd i or-ganoli (a gynrychiolid gan ddinas Paris) gan ddadlau fod y genedl wedi ei ffurfio o deuluoedd, pentrefi a rhanbarthau, a bod gwarchod hunaniaeth y rhain yn bwysig. Etholwyd ef i'r senedd dros ran o Baris yn 1906. Bu'n cydweithio gyda Charles Maurras, sefydlydd yr Action française, ond yn wahanol iddynt hwy, nid oedd Barrès o blaid brenhiniaeth.
Bu'n gyfrirfol am ddatblygu, neu chydnabod a rhoi enw i'r cysyniad o cenedl titiwlar sef, rôl a brait, prif genedl o fewn i wladwriaeth, yn enwedig gwladwriaeth ag iddi fwy nag un genedl neu phobl o draddodiad ac iaith gwahanol. Datblygodd hyn yn sgil Achos Dreyfus yn yr 1890au.