Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Safle ioga (asan) yw Mayūrāsana (Sansgrit) neu'r Paen[1] lle mae'r corff yn cydbwyso fel tafol. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn ioga hatha ac ioga modern ac fel ymarfer corff a gymnasteg gyda'r corff yn cael ei ddal yn llorweddol dros y dwylo. Mae'n un o'r asanas hynaf lle nad yw'r corff mewn asana eistedd.
Mae'r enw'n dod o'r geiriau Sansgrit mayūra (मयूर) sy'n golygu "y paun"[2] ac asana (आसन) sy'n golygu "ystum neu safle'r corff".[3]
Fe'i disgrifiwyd gyntaf yn y 10g yn y testun Vimānārcanākalpa. Mae'r Vāsiṣṭha Saṁhitā 1.76-7 hefyd yn nodi ei fod yn dileu pob pechod.[4]
Yn yr asana hwn mae'r corff yn cael ei godi fel ffon syth, lorweddol sy'n cael ei gynnal uwch y llawr gyda'r dwylo, a phwysau'r corff cyfan ar y penelinoedd.[5]
Mae Hamsasana (Yr Alarch) yn union yr un fath â Mayurasana ac eithrio bod y dwylo'n cael eu gosod gyda'r bysedd yn pwyntio ymlaen.[6]
Croesir y coesau yn yr asana Padma Mayurasana (Lotws y Paen) fel.[7]