Me One | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1970 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, rapiwr, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr caneuon |
Mae Me One (ganwyd Eric Martin ar 19 Awst 1970) yn gerddor, rapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau Jamaicaidd-Gymreig, a ddaeth i amlygrwydd am ei waith ar gyfer y grŵp cerddorol Technotronic yng Ngwlad Belg.
Ganwyd Martin yng Nghaerdydd, yn fab i rieni Jamaicaidd; ei fam yn athro Saesneg o Kingston a'i dad yn weinidog Eglwys Bentecostaidd o Blwyf y Santes Fair. Addysgwyd Martin yng Nghaerdydd, Llundain a Dinas Efrog Newydd. Mae ganddo ddinasyddiaeth ddeuol Jamaicaidd a Phrydeinig.
Roedd Martin (fel MC Eric) yn aelod o grŵp dawns tecno Technotronic, gan ddarparu prif lais ar y sengl boblogaidd "This Beat Is Technotronic" (1990). Ar anterth eu gyrfa buont ar daith gyda Madonna ar ei thaith byd-eang Blond Ambition yn y 1990au.
Rhyddhawyd albwm cyntaf Martin o dan yr enw Me One ym mis Mai 2000 ar Universal-Island UK. Teitl yr albwm 12 trac oedd As Far as I'm Concerned [1] ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan Guru (o Gang Starr) ar "Do You Know "a Michelle Gayle ar fersiwn 'cover' o drac The Beach Boys "In My Room". Rhyddhawyd yr olaf fel sengl, ynghyd â "Game Plan" ac "Old Fashioned".
Ar wahân i'w waith unigol, mae Martin wedi ysgrifennu gyda (neu ar gyfer) Jeff Beck, Maxi Priest, The Roots, Capleton, Lynden David Hall a'r Sugababes. Yn 2011 arwyddodd gytundeb recordio gyda'r label recordio o Glasgow, Innovation Music.[2]
Yn 2024, derbyniodd Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymreig.[3]