Medi Harris | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 2002 Porthmadog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofiwr |
Chwaraeon |
Nofiwr rhyngwladol Cymreig yw Medi Eira Harris (ganwyd 15 Medi 2002). Ennill medal efydd gan gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn y ras 100 metr dull cefn merched. [1] [2] Aeth i'r Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis.[3]
Cafodd Harris ei geni ym Mhorthmadog. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Abertawe, Enillodd ddwy fedal gan gynnwys y fedal aur yn y digwyddiad 100 metr cefn, ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain 2022 . [4] O ganlyniad, cynrychiolodd Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau Dŵr y Byd 2022 . [5]
Yn 2022 cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 ym Mirmingham lle bu'n cystadlu mewn dwy ras; cefn 50 metr merched a 100 metr cefn.[1]
Ym Mhencampwriaethau Dŵr Ewropeaidd 2022 yn Rhufain, enillodd fedal arian yn rownd derfynol ras gefn 100 metr merched ac un arall fel aelod o dîm Prydain yn ras gyfnewid dull rhydd 4 × 200 metr y Merched.[6] Yn yr un pencampwriaethau, enillodd fedal aur fel aelod o dîm ras gyfnewid dull rhydd 4 × 100 medr Merched Prydain, ac efydd fel aelod o dîm cyfnewid cymysg 4 × 100 metr.