Enw personol Cymraeg yw Megan (fe'i sillafir weithiau yn Saesneg fel Meghan, Meagan neu Meaghan) sy'n ffurf fer o Marged, trosiad Cymraeg o'r enw Seisnig Margaret. Mae Megan yn un o'r enwau Cymraeg mwyaf poblogaidd enwau yng Nghymru a Lloegr; ac yn aml mae'n cael ei fyrhau i Meg.[1] Erbyn hyn, mae'n cael ei ddefnyddio yn gyffredinol fel enw annibynnol yn hytrach nag fel llysenw.[2]
Megan oedd yn un o'r enwau mwyaf poblogaidd i ferched yn y byd Saesneg ei iaith yn y 1990au, gan gyrraedd uchafbwynt yn 1990 yn yr Unol Daleithiau [3] a 1999 yn y Deyrnas Unedig.[4] Mae tua 54 y cant o'r bobl a enwir Megan a anwyd yn yr Unol Daleithiau wedi eu geni yn 1990 neu yn ddiweddarach.