Math | safle archaeolegol, cylch cerrig, heneb gofrestredig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1772°N 4.3021°W ![]() |
Cod OS | SH4623766929 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN022 ![]() |
Cylch cerrig ar Ynys Môn yw meini hirion Bryn Gwyn neu Gastell Bryn-gwyn, sy'n dyddio o Oes yr Efydd.
Mae'r meini hirion yn ne-orllewin Ynys Môn ger safle archaeolegol arall, Castell Bryn Gwyn, tua 3 milltir i'r dwyrain o Niwbwrch a thua milltir a hanner i'r gorllewin o Frynsiencyn.[1] Cyfeirnod OS: 462669.
Llifa Afon Braint heibio ychydig i'r gorllewin o'r safle, sy'n un o sawl safle cynhanesyddol yn yr ardal, gan gynnwys Caer Leb a siambr gladdu Bodowyr.
Yn ôl disgrifiadau cynnar, bu naw carreg yn y cylch ar un adeg, ond dim ond dwy sy'n aros heddiw, yn mesur 4 a 3 medr o uchder. Roeddent yn sefyll mewn cylch gyda diametr o tua 12 metr[2], a hwnnw y tu mewn i ffos gyda chlawdd allanol, adeiladwaith sy'n awgrymu eu bod yn yr un traddodiad cylchoedd henge â chylch diflanedig ger Llandygái, dros y Fenai ger Bangor.[3]