Mel Giedroyc | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1968 Epsom |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, dyddiadurwr, cyflwynydd teledu, actor llwyfan |
Tad | Michal Giedroyc |
Mam | Rosemary Virginia Anna Cumpston |
Perthnasau | Philip Parham |
Llinach | House of Giedroyć |
Digrifwr, actores, a chyflwynydd o Loegr yw Melanie Clare Sophie "Mel" Giedroyc (/ˈɡɛdrɔɪtʃ/; ganwyd 5 Mehefin 1968), sy'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith comedi gyda Sue Perkins, cyd-gyflwyno cyfresi fel Light Lunch ar gyfer Channel 4, The Great British Bake Off ar gyfer y BBC a sioe sgwrsio Mel and Sue ar ITV.
Ganwyd Giedroyc yn Epsom, Surrey a'i magwyd yn Leatherhead. Roedd ei thad yn hanesydd o dras Pwylaidd-Lithwaniad o deulu tywysogaidd Giedroyć, a ddaeth i Loegr yn 1947. Mynychodd yr ysgol annibynnol Oxford High School, Rhydychen ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan ennill gradd 2:2 mewn Iaith a Llenyddiaeth Eidaleg.[1]
Ymddangosodd Giedroyc mewn un bennod o Gimme Gimme Gimme, yn chwarae derbynyddes mewn gwesty. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar RI:SE ar Channel 4. Fe drosleisiodd y rhaglen Celebrity Driving School yn 2003. Roedd yn gystadleuydd ar gyfres 2005 o The Games, cyd-serennodd yng nghomedi sefyllfa Blessed ar BBC One a chyd-gyflwynodd Richard Hammond's 5 O'Clock Show ar ITV. Roedd Giedroyc mewn un bennod o The Vicar of Dibley.
Mae Giedroyc yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno eitemau comedi gyda Sue Perkins. Cyfarfu'r ddau tra'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac roedd y ddau yn aelod o glwb comedi Footlights. Fe roedd y ddeuawd Mel and Sue ar y rhestr fer i wobr Newydd-ddyfodiaid Gorau y Daily Express yng Ngŵyl Caeredin yn 1993. Daeth eu swyddi cyflwyno gyntaf gyda sioe amser cinio o'r enw Light Lunch ar Channel 4 (a fersiwn yn y prynhawn, Late Lunch).
Giedroyc oedd y chweched myfyriwr i gael ei phleidleisio allan o gyfres Comic Relief Does Fame Academy ac roedd yn feirniad gwadd ar Making Your Mind Up ynghyd â John Barrowman. Serennodd yn y sioe Eurobeat: Almost Eurovision! yng Ngŵyl Caeredin ac yn dilyn hynny yn Theatr y Novello yn West End Llundain. Chwaraeodd Giedroyc gymeriad 'Fairy Liquid' mewn cynhyrchiad o Jack and the Beanstalk yn theatr y Barbican, Llundain yn Rhagfyr 2007. Fe berfformiodd mewn sioe sgets i blant ar y BBC, Sorry I've Got No Head. Yn 2010, roedd Giedroyc yn gapten tîm o enwogion gwadd ar What Do Kids Know? gyda Rufus Hound, Joe Swash a Sara Cox ar Watch ac fe ymddangosodd ym mhennod cyntaf ail gyfres comedi sefyllfa Miranda fel hyfforddwr bywyd.
Roedd Giedroyc yn banelydd ar raglen Channel 5, The Wright Stuff yn 2007, 2008 a Chwefror 2010. Mae'n chwarae Mrs V, perchennog caffi Y, yn y rhaglen blant Sadie J ar CBBC a hi yw llais Mist yn Mist: Sheepdog Tales,[2] a ddangosir ar sioe fore Channel 5 Milkshake!.
Fe ailymunodd Giedroyc a Sue Perkins yn 2010 i gyflwyno'r sioe goginio The Great British Bake Off, ar BBC Two o 16 Awst 2010. Yn ddiweddarach mewn cyfweliad papur newydd fe gyfaddefodd Giedroyc ei fod wedi gwneud y sioe am yr arian, gan esbonio sut roedd ar fin mynd yn fethdalwr.[3] Symudodd y sioe i BBC One am ei bumed gyfres ac mae wedi ennill nifer o wobrwyon.[4] Yn 2012 a 2013, cyflwynodd dwy raglen elusennol arbennig ar gyfer Sport Relief a Comic Relief. Yn 2014, roedd yn gyflwynydd gwadd ar gyfer The Great Sport Relief Bake Off ac yn 2015, cyflwynodd un bennod o The Great Comic Relief Bake Off.
Yn Mawrth 2014, cyflwynodd Giedroyc Collectaholics, cyfres ffeithiol fer ar BBC Two. O Mai 2014, cyflwynodd Giedroyc un gyfres o raglen Channel 4, Draw It!, oedd wedi ei seilio ar yr app symudol Draw Something.[5] Yn Mai 2014, cyflwynodd Giedroyc, gyda'r seicolegydd clinigol Dr Jennifer Wild, raglen ar BBC One o'r enw Vertigo Road Trip am bobl oedd yn ofn uchder. [6] Ar 12 Tachwedd 2014, roedd Giedroyc yn gyflwynydd gwadd ar The One Show gyda Alex Jones.[7]
Yn 2015, trosleisiodd Giedroyc gyfres wyth rhan ar BBC One, Now You See It. Cyhoeddwyd byddai ail gyfres yn ddiweddarach a ddarlledir yn 2016.[8] Yn Ionawr 2015, cafodd Giedroyc a Perkins ei sioe sgwrsio yn ystod y dydd ar ITV. Fe redodd sioe Mel and Sue am 30 pennod, bob prynhawn yn yr wythnos am 4pm.[9][10] Cyhoeddwyd yn Awst 2015 fod y sioe wedi ei chanslo.[11]
Yn Chwefror 2015, cyd-gyflwynodd Giedroyc a Matt Baker y gyfres pedwar rhan The Gift ar BBC One. Mi fydd yn dychwelyd am ail gyfres yn 2017.[12] Cyflwynodd Geidroyc y sioe gemau amser brig Relatively Clever ar Sky1, a ddechreuodd ar 3 Ebrill 2015.[13] Yn Mai 2015 ymunodd Giedroyc a Scott Mills yn sylwebu ar rownd gynderfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2015 ar gyfer y Deyrnas Unedig, a ddarlledwyd ar BBC Three.[14]. Yn Chwefror 2016 fe fydd yn cyflwyno Eurovision: You Decide ar BBC Four, rhaglen fydd yn dewis pa gân fydd y Deyrnas Unedig yn ei ddanfon i Gystadleuaeth Cân Eurovision 2016.[15]
Yn Awst 2010, ymddangosodd Giedroyc fel cyd-gyflwynydd ar sioe Dave Gorman ar Absolute Radio, yn sefyll fewn dros Danielle Ward ac mae wedi ymddangos ar gyfresi 4 i 7 o Count Arthur Strong's Radio Show! ar BBC Radio 4.[16] O 2 Ebrill 2011, gydag ail-frandio Radio 7 fel Radio 4 extra, mae Giedroyc wedi cyflwyno The 4 O'Clock Show, sioe sgwrsio sy'n cynnwys eitemau perthnasol i adloniant plant.
Ar 6 Medi 2014, cyd-gyflwynodd Giedroyc gyda Lee Mack ar ei sioe fore Sadwrn ar BBC Radio 2.[17]
Yn Nhachwedd 2014 roedd Giedroyc yn rhan o fenter Gareth Malone, All Star Choir,[18] yn canu'r unawd agoriadol yn ei fersiwn nhw o "Wake Me Up" i godi arian at Plant Mewn Angen.[19] Ar 3 a 10 Tachwedd 2014, darlledwyd rhaglen ddogfen dwy ran am y côr ar BBC One. Ar 16 Tachwedd, aeth y sengl i rif un yn siart senglau'r DU.
Fe fydd Giedroyc yn cyflwyno'r daith Strictly Come Dancing Live Tour rhwng 22 Ionawr a 14 Chwefror 2016.
Giedroyc yw'r ieuengaf o bedwar plentyn. Mae'r ifancaf o'r chwiorydd, Coky Giedroyc, yn gyfarwyddwraig; a'r chwaer hyn, Kasia, yn wraig i Philip Parham, diplomat Prydeinig.
Mae Giedroyc yn briod a Ben Morris, cyfarwyddwr teledu ac athro yn LAMDA.[20] Maent yn byw yn Llundain ac mae ganddynt dau blentyn: Florence, ganwyd Mai 2002 a Vita, ganwyd Chwefror 2004.
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Sianel | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
1997–98 | Light Lunch | Cyd-gyflwynydd | Channel 4 | Gyda Sue Perkins |
1998 | Late Lunch | Cyd-gyflwynydd | Gyda Sue Perkins | |
2006 | Mist: The Tale of a Sheepdog Puppy | Llais Mist | Channel 5 | Ffilm deledu unigol |
Richard Hammond's 5 O'Clock Show | Cyd-gyflwynydd | ITV | Gyda Richard Hammond | |
2008–2011 | Sorry, I've Got No Head | Amryw gymeriadau |
CBBC | |
2010— | The Great British Bake Off | Cyd-gyflwynydd | BBC Two (2010–13) BBC One (2014—) |
Gyda Sue Perkins |
2011–2014 | Sadie J | Ms. V | CBBC | |
2014 | Draw It! | Cyflwynydd | Channel 4 | |
Collectaholics | Cyflwynydd | BBC Two | ||
Vertigo Road Trip | Cyflwynydd | BBC One | Sioe unigol | |
2015— | Now You See It | Adroddwr | BBC One | |
The Gift | Cyd-gyflwynydd | BBC One | Gyda Matt Baker | |
2015 | Mel and Sue | Cyd-gyflwynydd | ITV | GydaSue Perkins |
Relatively Clever | Cyflwynydd | Sky1 | ||
Eurovision Song Contest 2015 | Cyd-sylwebydd[21] | BBC Three | Gyda Scott Mills | |
The Sound of Music Live! | Frau Schmidt | ITV | Fersiwn y DU o The Sound of Music Live!, darlledwyd 20 Rhagfyr 2015 | |
2016 | Eurovision: You Decide | Cyflwynydd | BBC Four |