Menna Elfyn | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1951 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, dramodydd, academydd |
Cyflogwr | |
Plant | Fflur Dafydd |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Gwefan | https://mennaelfyn.co.uk/ |
Bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Cymreig yw Menna Elfyn (ganwyd 1 Ionawr 1951). Ysgrifenna am yr iaith Gymraeg a hunaniaeth y genedl. Mae hi wedi cyhoeddi deg cyfrol o farddoniaeth a thros dwsin o lyfrau i blant a blodeugerddi. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu wyth drama lwyfan, chwech drama radio ar gyfer y BBC, dwy ddrama ar gyfer y teledu yn ogystal ag ysgrifennu rhaglenni dogfen ar gyfer y teledu. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys gwobr gan Gyngor y Celfyddydau am ysgrifennu llyfr o'r enw Sleep.
Mam y gantores a'r awdures Fflur Dafydd yw hi.