Math | cydweithredu |
---|
Mae Menter Cyllid Preifat (Public Finance Initiative, PFI) yn ffordd o greu partneriaethau rhwng rhannau cyhoeddus a phreifat yr economi. Mae'n golygu talu am brosiectau adeiladu cyhoeddus (fel seilwaith) gydag arian gan gwmnïau preifat.
Fe'i crëwyd gan lywodraethau Awstralia a'r Deyrnas Unedig. Fe'i defnyddiwyd yno ac yn Sbaen. Mae PFI a'i amrywiadau bellach wedi'u defnyddio mewn llawer o wledydd fel rhan o'r rhaglen ehangach o breifateiddio ac ariannol. Mae hyn wedi digwydd oherwydd yr angen cynyddol am atebolrwydd ac effeithlonrwydd ar gyfer gwario arian cyhoeddus.[1] Mae PFI hefyd wedi'i ddefnyddio'n syml i osgoi adrodd ar gostau a dyled ar y mantolenni.[2]
Nid oes diffiniadau swyddogol o’r termau Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat (Public Private Parnership, PPP) a PFI y cytunir arnynt, ac yn aml iawn, cânt eu defnyddio’n ymgyfnewidiol.
Ceir darlun o’r egwyddorion y tu cefn i’r termau hyn.
Mae PFI yn ffurf o PPP sy’n cyfuno rhaglen caffael gyhoeddus (lle mae’r sector cyhoeddus yn prynu eitemau cyfalaf gan y sector preifat), â ffurf estynedig o gontractio allan (lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu contractio gan y sector preifat). Mae’r partner sector preifat yn casglu’r cyllid i ariannu’r prosiect, fel arfer drwy gymysgedd o gyllid i ariannu dyledion a chyllid ecwiti. Mae PFI yn newid rôl y sector cyhoeddus i raddau, o fod yn berchennog a darparwr i fod yn alluogwr a phrynwr.
Egwyddorion canllawiau PFI yw: bod y sector preifat yn cymryd risg yn erbyn colledion heb warant gan y trethdalwr ac y dylid dangos gwerth am arian am unrhyw wariant gan y sector cyhoeddus.[3]
Fel arfer, mae PFI yn golygu darparu asedau cyfalaf a gwasanaethau gweithredol sy’n cyd-fynd â’r ased hwnnw.
Yn y modelau mwyaf cyffredin, mae’r sector preifat yn dylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu (DBFO), neu’n dylunio, adeiladu, cynnal ac ariannu (DCMF) cyfleusterau, a hynny’n seiliedig ar fanyleb a bennir gan y sector cyhoeddus. Nid yw’r sector cyhoeddus yn berchen ar yr ased, ond yn diffinio lefel y gwasanaeth y mae’r partner sector preifat i’w ddarparu yn gyfnewid am daliad refeniw, y tâl unedol (gweler y blwch isod). Os yw’r corff sector preifat yn methu â chyrraedd y safonau y cytunwyd arnynt, mae’n colli elfen o’r tâl unedol nes bydd safonau’n gwella. Pan ddaw’r contract i ben, caiff perchnogaeth o’r ased un ai ei throsglwyddo i’r sector cyhoeddus, neu bydd yn parhau gyda’r sector preifat, yn ôl telerau’r contract. Felly, mae unrhyw brosiect PFI yn ddibynnol ar y contract a ddefnyddir, yn ogystal â pharodrwydd y ddau barti i’w orfodi.[4]
Cafwyd gwrthwynebiad deallusol a gwleidyddol iddo ar draws y DU a hefyd Cymru. Dwedodd Plaid Cymru yn 2011 fod PFI yn "dargyfeirio miliynau o bunnoedd o wasanaethau rhengflaen cynghorau lleol Cymru am bod rhaid iddynt dalu costau uchel cytundebau Menter Cyllid Preifat". Dywedwyd bod "mwy na £40m y flwyddyn" yn mynd allan fel taliadau PFI gan gynghorau Cymru yn flynyddol.[5] Yn 2008 dywedodd Dai Lloyd Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru bod "24 o brosiectau PFI yng Nghymru wedi costio £601m i’w hadeiladu, ond byddai ad-dalu’r benthyciadau buddsoddi hynny dros ddegawdau yn golygu bil terfynol o £2.6bn."[6]
Datganodd Alun Davies, Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn 2017, "In Wales, there is no PFI and no privatisation".[7] Gellid dadlau nad yw hyn yn hollol gywir ond o flynyddoedd cynnar datganoli roedd Cymru bob amser yn llawer mwy gofalus tuag at PFI na Lloegr a’r Alban: mewn gwirionedd roedd cytundeb clymblaid ‘Cymru’n Un’ yn gwahardd unrhyw gynlluniau PFI ychwanegol ar gyfer y GIG.[8]