Mererid Hopwood |
---|
 |
Ganwyd | Elin Mererid Hopwood  18 Chwefror 1964  Caerdydd  |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | bardd, cyflwynydd teledu, llenor, darlithydd  |
---|
Swydd | Chair of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University  |
---|
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru  |
---|
Darlithydd a bardd o Gymraes yw Mererid Hopwood (ganwyd 18 Chwefror 1964). Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[1] Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni.
Fe'i ganwyd a magwyd yng Nghaerdydd ond roedd ei theulu yn hannu o Bontiago, Sir Benfro. Mynychodd ysgolion Bryntaf a Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.[2]
Cychwynnodd ddarlithio yn adrannau'r Gymraeg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn Athro Ieithoedd a'r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2005.
Yn Hydref 2020 cafodd ei phenodi'n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddechrau yn y swydd ar ddechrau mis Ionawr 2021.[3]
Ym Mehefin 2023 cyhoeddwyd mai Hopwood fydd Archdderwydd Gorsedd y Beirdd am y cyfnod 2024-2027.[4] Trosglwyddwyd yr awenau iddi gan Myrddin ap Dafydd ar 27 Ebrill 2024 yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025.[5]
Mae'n byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr Martin ac mae ganddynt tri plentyn - Hanna, Miriam a Llewelyn.
- O Ran (Gwasg Gomer, 2008)
- (gyda Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones, Sonia Edwards ac Elinor Wyn Reynolds) Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer, 2004)
- (gyda Tudur Dylan Jones, Gwion Hallam, Caryl Parry Jones, Mei Mac a Ceri Wyn Jones) Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Plentyn (Dref Wen, Gorffennaf 2005)
- O'r Môr i Ben y Mynydd (Gwasg Gomer, 2006)
- Y Tandem Hud (Gwasg Gwynedd, 2006)
- (gol.) Cerddi'r Gof (Dref Wen, 2006)
- Ar Bwys... (Gwasg Gomer, 2007)
- Gwersylla (Y Lolfa, 2010)
- Y Sw (Y Lolfa, 2010)
- Trysor Mam-gu (Gwasg Gomer, 2010)
- Cynghanedd i Blant (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
- Straeon o'r Mabinogi (Gwasg Gomer, 2012)
- (gydag Ann-Marie Gealy) Bric, Bloc a Bwced (Cyhoeddiadau y Drindod Dewi Sant, 2012)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Beibl Odl y Plant (Cyhoeddiadau'r Gair, 2013)
- Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (Gwasg Gomer, 2017)
- Dosbarth Miss Prydderch a Silff y Sarff (Gwasg Gomer, 2017)
- Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau (Gwasg Gomer, 2017)
- Dosbarth Miss Prydderch a'r Eisteddfod Genedlaethol (Gwasg Gomer, 2018)
- Holl Hanes Cymru: Llyfr Hopcyn ap Tomos (Canolfan Peniarth, 2017)
- Nest (Canolfan Peniarth, 2017)
- Dosbarth Miss Prydderch a'r Dreigiau (Gwasg Gomer, 2018)
- Dosbarth Miss Prydderch a Dewin y Dŵr (Gwasg Gomer, 2019)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Aled Acen Grom (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Alys Atalnod (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Arwel Atalnod Llawn (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Catrin Collnod (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Dan a Dyfan Dyfynnod (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Elen Ebychnod (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Gafin Gofynnod (Canolfan Peniarth, 2018)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Bai ar Gam? (Canolfan Peniarth, 2019)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Paul Robeson (Canolfan Peniarth, 2019)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Pleidiol Wyf i'm Gwlad (Canolfan Peniarth, 2019)
- (gyda Tudur Dylan Jones) Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 1 (Canolfan Peniarth, 2019)
- Anifeiliaid y Dref
- Bwyd o Bedwar Ban Byd
- Croesi'r Ffordd
- Hamdden yr Haf
- Lliwiau
- Rwy'n Clywed â'm Clust Fach i...
- Rwy'n Gweld â'm Llygad Fach i ...
- Teithio
- (gyda Tudur Dylan Jones) Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 2 (Canolfan Peniarth, 2019)
- Bwrw Glaw
- Darllen y Dref
- Deffro Roco
- Dyddiaduron Betsan
- Gofal Gofal
- Maes Awyr
- Trip i'r Farchnad
- Ar Gof: Y Lloer a'r Sêr (Atebol, 2020)