Mhairi Black AS | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Douglas Alexander |
---|---|
Geni | Paisley, Swydd Renfrew, Yr Alban | 12 Medi 1994
Cenedligrwydd | ![]() |
Etholaeth | Paisley a De Swydd Renfrew |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Mhairi Black (ganwyd 12 Medi 1994) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Paisley a De Swydd Renfrew; mae'r etholaeth yn Swydd Renfrew, yr Alban. Mae Mhairi Black yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe'i ganed yn Paisley, Swydd Renfrew yn 1994 a mynychodd Ysgol Uwchradd Lourdes, ac yna Prifysgol Glasgow ble derbyniodd Radd Dosbarth dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ym mehefin 2015.[1][2] Pan enillodd ei sedd fel AS roedd yn dal i astudio ar gyfer y Radd hon.
Disgrifiai ei hun fel 'sosialydd traddodiadol' ac mae wedi dyfynnu Tony Benn ambell dro, un o'i harwyr.[3] Ymhlith ei harwyr eraill mae Keir Hardie a Margo MacDonald.[4] Mae'n ffan mawr o Dîm Pêl-droed Partick Thistle.[5]
Mae'n un o'r Aelodau Seneddol ieuengaf erioed.[6]
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[7][8] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Mhairi Black 23,548 o bleidleisiau, sef 50.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +32.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5,684 pleidlais.