Michael McIntyre | |
---|---|
Llais | Michael mcintyre bbc radio4 desert island discs 17 07 2011.flac |
Ganwyd | Michael Hazen James McIntyre 21 Chwefror 1976 Merton |
Man preswyl | Hampstead |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd, llenor |
Tad | Ray Cameron |
Perthnasau | Simon Ward, Sophie Ward |
Digrifwr stand-yp o Loegr ydy Michael Hazen James McIntyre (ganwyd 21 Chwefror 1976) sydd weithiau hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu. Yn 2012, dywedir iddo ennill mwy o gyflog nag unrhyw ddigrifwr arall, drwy'r byd.[1]
Yn ychwanegol i fod yn stand-yp ar lwyfannau mwya'r byd, mae ganddo hefyd ei raglen deledu ei hun: Michael McIntyre's Comedy Roadshow (BBC One) ac mae'n ymddangos yn achlysurol ar sioeau eraill ee Live at the Apollo ac ar banel beirniaid Britain's Got Talent yn 2011. Yn 2018 roedd ganddo ei gyfres deledu ar nosweithiau Sadwrn: Michael McIntyre's Big Show (BBC One).
Yn 2018 roedd McIntyre yn byw yn Hampstead, Llundain gyda'i wraig Kitty (armoatherapydd o ran ei galwedigaeth) a dau o blant. Mae Kitty'n ferch i'r actor Simon Ward ac yn chwaer i'r actores Sophie Ward.[2] The couple have two sons, Lucas and Oscar.[3]
Cefnogwr Tottenham Hotspur F.C. yw McIntyre.[4] Mae criced yn un o'i ddiddordebau eraill, ac mae wedi ymddangos ar y rhaglen Test Match Special ble roedd yn trafod y maes.[5]
Ar 1 Ebrill 1989, yn 13 oed, eisteddai McIntyre yng nghynulleidfa stiwdio Going Live (BBC); cafodd gyfle i ofyn cwestiwn i'r grwp pop Five Star. Mwynhaodd y profiad, cymaint, rhoddodd ei fryd ar fod o flaen y camera.
Rhwng 2017 a 2019 teithiodd yn perfformio ledled y byd gyda'i sioe Michael McIntyre's Big World Tour, gyda Chaerdydd yn un o'r llefydd ble'r ymddangosodd. Roedd 83 llwyfan yn ei aros, mewn 15 gwlad.[6]