Michael Patrick King

Michael Patrick King
Ganwyd14 Medi 1954 Edit this on Wikidata
Scranton Edit this on Wikidata
Man preswylGreenwich Village Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Mercyhurst Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, showrunner, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
PriodKaren Smyers Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy Primetime am Gyfres Gomedi Eithriadol, Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Comedy Series Edit this on Wikidata

Mae Michael Patrick King (ganed 14 Medi 1954, yn Scranton, Pennsylvania) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac ysgrifennwr rhaglenni teledu o'r Unol Daleithiau sydd wedi ennill Gowbr Emmy am ei waith. Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu rhaglen olaf ymhob cyfres o Sex and the City a'r rhaglenni agoriadol ers yr ail gyfres. Yn ddiweddar, cyfarwyddodd King Sex and the City:The Movie.

Ysgrifennodd sioe arall ar gyfer HBO o'r enw The Comeback yn ogystal â sioeau megis Will & Grace, Cybill, a Murphy Brown.

Yn ystod y 1980au symudodd King i Ddinas Efrog Newydd lle gweithiodd fel digrfiwr ac ysgrifennu dramâu. Yn ddiweddarach, symudodd i Los Angeles lle ysgrifennodd ar gyfer Murphy Brown a chafodd ei enwebu am sawl Emmy am ei waith.[1]

Mae'n ddyn hoyw agored [2] ac mae'n berchen ar Arcade Productions.

Dechreuodd ei yrfa fel digrifwr ar ei draed a chomedi sgets ond bellach prin y mae'n perfformio. Ymddangosodd yn Un-Cabaret ac ymddengys ar eu cryno-ddisgiau a'u podcasts. Mae ef hefyd yn ymddangos ar The Other Network Writers Room, sef cyfres sain ar gyfer pobl sydd eisiau ysgrifennu comedi.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan HBO". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-20. Cyrchwyd 2008-12-22.
  2. "Erthygl o wefan Time". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-27. Cyrchwyd 2008-12-22.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.