Michelle Thomson | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
Rhagflaenydd | Mike Crockart Democratiaid Rhyddfrydol |
---|---|
Geni | Yr Alban | 11 Mawrth 1965
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gorllewin Caeredin |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Academi Frenhinol Celf, Glasgow |
Galwedigaeth | Gwleidydd a cherddor |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Michelle Thomson (ganwyd 11 Mawrth 1965) a oedd yn Aelod Seneddol dros Orllewin Caeredin rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Dinas Caeredin. Roedd yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) yn Nhŷ'r Cyffredin lle bu'n Llefarydd dros a sgiliau.
Graddiodd yn 1985 yn Academi Frenhinol Celf, Glasgow.[1] Ers gadael y coleg cafodd nifer o swyddi'n ymweud â busnes a thechnoleg. Mae'n berchennog busnes bychan ac yn Rheowraig-Gyfarwyddwr y mudiad dros annibyniaeth Business for Scotland. Yn ystod yr wythnosau cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 siaradodd mewn dros 90 o gyfarfodydd.[1]
Nid oedd gan Michelle fawr o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth tan y refferendwm. Enwyd hi gan y Sunday Post fel un o lond dwrn y dylid cadw llygad barcud arni.[2][3]
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Michelle Thomson 21378 o bleidleisiau, sef +39% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +25.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 3210 pleidlais.
|publisher=
(help)