Midori Gotō

Midori Gotō
Ganwyd25 Hydref 1971 Edit this on Wikidata
Osaka Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethfiolinydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gotomidori.com Edit this on Wikidata

Cerddor Americanaidd a aned yn Japan yw Midori Gotō (ganwyd 25 Hydref 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel fiolinydd, athro celf ac awdur.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 11 oed, fel unawdydd gwadd annisgwyl yng Ngala Nos Galan, 1982. Yn 1986 gwnaeth ei pherfformiad cyntaf yng Ngwyl Gerdd Tanglewood gyda Leonard Bernstein yn arwain ei gyfansoddiad-cerdd ei hun, ac ymddangosodd fel penawdau tudalen flaen The New York Times. Dros nos, daeth Midori yn blentyn enwog, ac yn un o feiolinwyr mwyaf blaenllaw'r byd.[1][2][3]

Sefydlodd gorff o'r enw Midori and Friends i ddod ag addysg cerdd i bobl ifanc cymunedau tlawd Dinas Efrog Newydd a Siapan; Mae Midori and Friends bellach wedi datblygu'n bedwar sefydliad gwahanol gydag effaith fyd-eang. Apwyntiwyd hi yn 'Negesydd heddwch' y Cenhedloedd Unedig yn 2009.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Osaka ar 25 Hydref 1971. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Ysgol Juilliard, Efrog Newydd a Phrifysgol Efrog Newydd. Gollyngodd gyfenw'i thad o'i henw llwyfan ar ôl ysgariad ei rhieni yn 1983, gan berfformio o dan yr enw Mi Dori i ddechrau, ac yna defnyddiodd y gair unigol Midori.[4][5][6][7][3] then deciding on the single word Midori.[2][8] Peiriannydd oedd ei thad a fiolinydd oedd ei mam. Roedd Setsu yn mynd â Midori ifanc yn rheolaidd i ymarferion y gerddorfa, lle roedd y plentyn bach yn cysgu yn rhes flaen yr awditoriwm tra roedd ei mam yn ymarfer ar y llwyfan. Un diwrnod, clywodd Setsu y Midori dwy flwydd oed yn canu concerto gan Johann Sebastian Bach a oedd wedi cael ei ganu iddi ddeuddydd ynghynt.

Yn 2000, graddiodd Midori magna cum laude o Ysgol Gallatin ym Mhrifysgol Efrog Newydd gyda gradd baglor mewn seicoleg ac astudiaethau rhyw, gan gwblhau'r radd mewn pum mlynedd tra'n parhau i berfformio mewn cyngherddau. Yn ddiweddarach enillodd radd meistr mewn seicoleg gan NYU yn 2005.

Yn 2004, cafodd Midori ei henwi yn athro Ysgol Gerdd Thornton Prifysgol Southern California lle mae'n Gadeirydd y Jascha Heifetz. Cyhoeddwyd ei chofiant Einfach Midori ("Simply Midori") hefyd yn yr Almaen yn 2004.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brookes, Stephen (March 23, 2012). "Violinist Midori coming to Alexandria to perform — and to teach young musicians". The Washington Post. Cyrchwyd November 15, 2017.
  2. 2.0 2.1 Earls, Irene (2002). "Midori". Young Musicians in World History. Greenwood Publishing. tt. 93–98. Cyrchwyd 24 Medi 2017 – drwy Google Books.
  3. 3.0 3.1 Perlmutter, Donna (8 Ebrill 1990). "Midori: From Prodigy to Artist : Unlike many Wunderkinder, the Japanese violinist has made the transition from lollipops to limousines". Los Angeles Times. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2017.
  4. Disgrifiwyd yn: http://digitale.beic.it/primo_library/libweb/action/search.do?fn=search&vid=BEIC&vl%283134987UI0%29=creator&vl%28freeText0%29=Midori. adran, adnod neu baragraff: Midori 1971-.
  5. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2024.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Midori Gotō". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Midori". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Midori". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  8. Schwarz, K. Robert (24 Mawrth 1991). "Glissando". The New York Times. Cyrchwyd 25 Medi 2017.