Mike Hopkins | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1959 ![]() Greytown ![]() |
Bu farw | 30 Rhagfyr 2012 ![]() o boddi ![]() Greytown ![]() |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd ![]() |
Galwedigaeth | peiriannydd sain ![]() |
Gwobr/au | Academy Award for Best Sound Editing ![]() |
Golygydd sain o Seland Newydd oedd Michael Alexander Hopkins (bu farw 30 Rhagfyr 2012 yn 53 oed). Cydweithiodd gyda'r cyfarwyddwr a chynhyrchydd Peter Jackson ar nifer o ffilmiau, gan gynnwys Braindead, Heavenly Creatures, The Frighteners a chyfres The Lord of the Rings.
Cyd-enillodd Hopkins Wobr yr Academi am olygu sain yn 2003 gyda Ethan Van der Ryn am eu gwaith ar The Lord of the Rings: The Two Towers, ac yn 2006 enillodd y ddau yr un Oscar eto am eu gwaith ar King Kong.[1] Enillodd Hopkins hefyd tair Gwobr Ffilm a Theledu Seland Newydd.[2]
Bu farw ar 30 Rhagfyr 2012 trwy foddi mewn damwain rafftio ar Afon Waiohine, Ynys y Gogledd.[3][4]