Mikola Statkevich | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1956 ![]() Liadna ![]() |
Man preswyl | Minsk ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Belarws ![]() |
Addysg | Ymgeisydd Gwyddorau Technegol ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Belarusian Social Democratic Party (People's Assembly) ![]() |
Priod | Maryna Adamovich ![]() |
Gwobr/au | Medal"Am Wasanaeth Arbennig", Belarusian Democratic Republic 100th Jubilee Medal, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Gwobr Sakharov ![]() |
Gwefan | https://statkevich.org/ ![]() |
Mae Mikola (Mikalai) Statkevich (Orgraff Gymraeg: Micola Statcefitsh; Belarwseg: Мікалай Статкевіч, Rwsieg: Николай Статкевич Nikolai Statkewitsch; ganwyd 12 Awst 1956 yn Ljadna, ardal Sluzk, Minskaya Woblasz) yn wleidydd democrataidd cymdeithasol yn Belarws. Mae'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Belarwsia "Narodnaya Hramada" (BSDP NH). Roedd ei rieni yn athrawon ysgol ac mae'n ddisgynnydd i'r teulu o uchelwyr, Statkiewicz.
Astudiodd Mikola Statkevich beirianneg yn yr Academi Filwrol ym Minsg (prifddinas Belarws) ac yna gwnaeth ei ddoethuriaeth ym maes RFID/amddiffyn awyr. Ychydig wythnosau cyn ei cyflwyno ei ddoethuriaeth, cafodd ei ryddhau o'r fyddin oherwydd ei fod wedi siarad yn erbyn Belarws yn cymryd rhan mewn gweithrediadau milwrol yn Rwsia.
Ar ddchrau'r 1990au roedd Statkevich yn un o arweindydd Cymdeithas Filwrol Belarws (y BVZ), mudiad pro-annibyniaeth o swyddogion milwrol Sofietaidd o Belarws.[1]
Ar ddechrau 1991 (pan oedd yr Undeb Sofietaidd dal mewn bodolaeth ac o dan reolaeth unbleidiol y Blaid Gomiwnyddol) ymddiswyddodd Statkewitsch o’r Blaid Gomiwnyddol fel arwydd o brotest dros atal treisgar gwrthryfel Lithwania (Sul Gwaedlyd Vilnius). Fel un o'r ychydig bersonél milwrol ym Melarus, gwrthwynebodd coup d'état Awst ym Moscow ym 1991.
Yn y blynyddoedd 1995–1996 llwyddodd Statkevich i ddod i mewn i senedd Belarws dair gwaith. Er mwyn atal hyn, datganodd llywodraeth Alexander Lukashenko fod yr etholiadau yn annilys bob tro. Yn 1999 trefnodd Statkewitsch yr hyn a elwir yn "Gorymdaith Rhyddid" ym Minsk, lle cymerodd 50,000 o brotestwyr ran. Cafodd y rali ei hatal yn dreisgar a chafodd sawl gwleidydd blaenllaw o'r gwrthbleidiau naill ai eu harestio neu eu llofruddio. Cafodd Statkewitsch ei arestio cyfanswm o 30 gwaith am ei wrthwynebiad i Lukashenka a chychwynnwyd achos troseddol yn ei erbyn dair gwaith. [2]
Ym 1995 daeth Statkevich yn gadeirydd y BSDP (NH) a rhedeg fel ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 2010. Ar ddiwrnod yr etholiad, 19 Rhagfyr, cafodd ei arestio ynghyd ag aelodau eraill yr wrthblaid yn ystod gwrthdystiad. Ym mis Mai 2011 cafwyd Statkevich yn euog o drefnu protestiadau torfol ynghyd â Dzmitry Wus, a oedd hefyd wedi sefyll yn erbyn Lukashenka. Gosododd y llys y ddedfryd i Statkevich yn chwe blynedd mewn gwersyll llafur.[3]
Roedd Senedd Ewrop a sefydliadau hawliau dynol rhyngwladol o blaid rhyddhau Statkevich. Rhyddhawyd Statkevich yn y cyfnod cyn yr etholiad arlywyddol ar 23 Awst 2015.[4]
Ar 31 Mai 2020, arestiwyd ef ar y ffordd i rali lle roedd llofnodion i gefnodi Svetlana Tikhanovskaya yn cael eu casglu. Cafodd ei ddedfrydu i 15 diwrnod yn nalfa’r heddlu am drefnu gwrthdystiad diawdurdod, a chafodd ei wahardd rhag etholiad arlywyddol 2020 ym Melarus.[5] This sentence was extended two more times, and he was tried again on June 29 for organizing unrest.[6]
Mae gan Statkewitsch ferch 32 oed sy'n byw yn yr Almaen.[7]