Millicent Mackenzie | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Mehefin 1863 ![]() Clifton, Bryste ![]() |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1942 ![]() Brockweir ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, academydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ![]() |
Cyflogwr |
|
Roedd Millicent Hughes Mackenzie (1863 – 10 Rhagfyr 1942) yn Athro addysg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, yr athro prifysgol benywaidd cyntaf yng Nghymru a'r cyntaf a benodwyd i brifysgol siartredig lawn yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd gangen y swffragetiaid yng Nghaerdydd, a safodd fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 1918, y fenyw cyntaf i ymgeisio am sedd seneddol yng Nghymru a'r unig fenyw i sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 1918 yng Nghymru. Ysgrifennodd ar athroniaeth addysg ac roedd yn arloeswr addysg Steiner-Waldorf yn y Deyrnas Unedig.
Ganwyd Hester Millicent Hughes yn 1863 yn ferch i Walter William Hughes (1833–1909) a Hester Catherine, née Tuckett (1834–1871) ym Mryste.
Cafodd ei haddysg yn Clifden, Bryste, Montmirail, y Swistir yn 1877 a Choleg Prifysgol Bryste yn 1878. Yn 1888 aeth i Goleg Athrawon Caergrawnt lle daeth hi'n ffrind gyda Elizabeth Phillips Hughes, pennaeth y coleg. Yn dilyn ei hyfforddiant yng Nghaergrawnt, daliodd Millicent Hughes swydd ddysgu dwy flynedd yn Ysgol Uwchradd i Ferched Sheffield i ennill profiad addysgu ymarferol pellach.
Aeth i weithio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy fel Meistres Arferol yn 1891 yn gyfrifol am adran hyfforddi athrawon elfennol ac uwchradd y menywod. Yn fuan ar ôl ei phenodi, roedd Hughes yn un o bum derbynnydd Ysgoloriaeth Deithio Gilchrist ar gyfer Athrawon Merched ac, ym 1893, treuliodd ddau fis yn astudio ac yn adrodd ar ysgolion uwchradd ar gyfer merched a sefydliadau hyfforddi athrawon i ferched yn yr Unol Daleithiau. Ar ôl dychwelyd, cyhoeddodd adroddiad gydag Amy Blanche Bramwell o'r enw The Training of Teachers in the United States (1894). Canolbwyntiodd ei gwaith ar ddulliau ar gyfer paratoi athrawon i weithio mewn ysgolion a daeth yn gefnogwr addysgu merched a bechgyn ar y cyd. Trwy gydol ei gyrfa cyhoeddodd nifer o bamffledi a llyfrau ar addysg, gan gynnwys Hegel’s Educational Theory and Practice (1909).
Tra rodd hi yn ne Cymru, daeth hi i adnabod John Stuart Mackenzie, athro athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol. Yn dilyn eu priodas yn 1898, cafodd ganiatâd arbennig i barhau i weithio a chafodd ei dyrchafu i fod yn Athro Addysg ym 1904 a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill statws athro llawn yng Nghymru ym 1910.
Dyrchafwyd Mackenzie yn athro cynorthwyol addysg ym 1904 ac yn athro addysg llawn (menywod) ym 1910, gan ddod y fenyw gyntaf i ennill statws athro yng Nghymru. Daliodd Mackenzie y swydd hon nes iddi hi a John Mackenzie ymddeol ym 1915[1].
Cafodd ei phenodi i Senedd y Coleg yn 1909 (y fenyw cyntaf i'w phenodi i Senedd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy), er bod cofnodion y senedd yn dangos Mackenzie yn bresennol mewn cyfarfodydd o 25 Hydref 1904.[2]
Ym 1916, sefydlodd The Guild of Education for National Service a Choleg Hyfforddi Halsey, cynllun hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y plentyn i athrawon a gweithwyr cymdeithasol. Yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, roedd yn ffigwr amlwg yn yr ymgais i drechu tlodi ac roedd ganddi rôl flaenllaw ym mudiad merched y ddinas[3].
Daeth Mackenzie yn aelod y Theosophical Society yn 1913 ac ymuodd a changen Llundain Harry Collinson, oedd yn astudio gwaith Rudolph Steiner yn 1914.
Yn dilyn y Rhyfel Mawr, aeth Mackenzie a'i gwr ar deithia darlithio i India, Burma, Ceylon ac Ewrop rhwng 1920 a 1922, a Berkeley, Califfornia yn 1923. Roedden nhwyn y Goetheanum yn Dormach ar gyfer cwrs celf a drefnwyd gan Baron Arlid Rosenkrantz a chwrdd a Rudolf Steiner am y tro cyntaf a gweld gwaith yr Ysgol steiner cyntaf.[4]
O ganlyniad i'r gynhadledd, trefnodd Mackenzie gyfres o ddarlithoedd gan Rudoplh Steiner ar gyfer athrawon adeg Nadolig 1921.
Gwnaeth lawer i hyrwyddo syniadadu Rudolph Steiner gan gynnwys cynhadled yn Stratford-on-Avon ym mis Ebrill 1922 a darlith ar Rudolph Steiner ac addysg yn Essex Hall, llundain ar 30 Awst 1924.[4][5]
Roedd Mackenzie yn un o sylfaenwyr ac yn is-lywydd ar y Gymdeithas Pleidleisiau i Fenywod Caerdydd a’r Fro, ac yn gyd-sylfaenydd a llywydd cangen Caerdydd a’r Fro Ffederasiwn Menywod Prifysgolion Prydain.
Yn dilyn pasio Deddf y Senedd (Amod Benywaidd) a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918 cafodd Mackenzie ganiatâd i sefyll fel ymgeisydd dros y Blaid Lafur ar gyfer etholaeth newydd Prifysgol Cymru, gan ddod yn ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru. Syr John Herbert Lewis, ymgeisydd y Rhyddfrydwyr a chyn Aelod Seneddol Sir y Fflint, enillodd yr etholiad.
Nodyn:Election box winEtholiad Cyffredinol 1918: Prifysgol Cymru | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
[[Coalition Liberal|Nodyn:Coalition Liberal/meta/shortname]] | Gwir Anrhydedd. John Herbert Lewis | 739 | 80.8 | N/A | |
Llafur | Mrs H.M. Mackenzie | 176 | 19.2 | N/A | |
Mwyafrif | 563 | 61.6 | N/A | ||
Nifer pleidleiswyr | 915 | 85.8 | N/A |
Mae copi o'i anerchiad etholiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru[6].
Bu ei gwr, John Mackenzie, farw ym mis Rhagfyr 1935 yn eu cartref yn Brockwier, yn swydd Caerloyw, ac ar ôl golygu ei nodiadau, cyhoeddodd ei hunangofiant ym 1936.[7] Cyfrannodd arian ar gyfer adeiladu neuadd y dref newydd yn Brockweir, a rhoddodd yr enw Neuadd Macksenzie ar ol ei gŵr.[8] Bu Millicent Mackenzie farw ar 10 Rhagfyr 1942 yn Brockweir.
|access-date=
(help)