Millie Small | |
---|---|
Ganwyd | Millicent Dolly May Small 6 Hydref 1947 Clarendon Parish |
Bu farw | 5 Mai 2020 Llundain |
Label recordio | Fontana Records, Island Records, Trojan Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Galwedigaeth | canwr, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Partner | Peter Asher |
Gwobr/au | Commander of the Order of Distinction |
Roedd Millie Small (Millicent Dolly May Small; 6 Hydref 1947 – 5 Mai 2020)[1][2] yn gantores Jamaicaidd, sy'n fwyaf adnabyddus, fel "Millie", am ei record boblogaidd 1964, "My Boy Lollipop". Cyrhaeddodd y sengl rif 2 yn siartiau y DU a'r UDA.
Cafodd Millie ei geni yn Clarendon, Jamaica, lle roedd ei thad yn oruchwyliwr planhigfa siwgr. Enillodd gystadleuaeth dalent pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Gwnaeth rai recordiadau gyda chanwr arall, Owen Gray, ac wedyn gyda Samuel Augustus "Roy" Panton. Daeth hi i Brydain ym 1963.