![]() | |
Math | teml, teml Rufeinig ![]() |
---|---|
![]() |
Mithraeum yw teml Fithräig danddaearol a godwyd yn yr Henfyd clasurol gan Fithräyddion. Gellir dyddio'r rhan fwyaf o Mithraea rhwng 100 CC a 300 OC, yn bennaf yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Ceir olion yr adeiladau yma mewn nifer o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth. Ymddengys fod y grefydd yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr, ac mae llawer o'r Mithraea yn agos at wersylloedd milerol. Ogofâu naturiol oedd y Mithraea cyntaf, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Cyfeiria hyn at fytholeg Mithras, y dywedir iddo ladd y tarw cyntefig mewn ogof. Llun o Mithras yn lladd y tarw oedd canolbwynt y temlau.
Ceir un Mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.