Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 429 metr |
Cyfesurynnau | 53.0823°N 4.2185°W |
Cod OS | SH5153256195 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 102.6 metr |
Rhiant gopa | Mynyddfor |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mynydd bychan yn Eryri ger pentrefi Rhosgadfan, Y Fron a Betws Garmon yng ngogledd Gwynedd yw Moel Tryfan (1400' / 427 m). Ni ddylid ei gymysgu a'r mynydd adnabyddus Tryfan, ger Llyn Ogwen (cyfeirir at y mynydd hwnnw mewn ambell hen lyfr fel "Moel Tryfan").
Gellid ystyried Moel Tryfan fel parhad gorllewinol o'r Mynydd Mawr, a wahanir oddi wrtho gan fwlch llydan. Ar lethrau deheuol a dwyreiniol y mynydd ceir olion sylweddol o'r chwareli llechi a fu mor brysur yno yn y gorffennol, yn cynnwys Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Alexandra (Cors y Bryniau).
Mae Kate Roberts yn sôn am y mynydd a'r ardal yn ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen.
Cafodd yr awdur Dic Tryfan ei lysenw o'r mynydd.
Aeth Charles Darwin i fyny Moel Tryfan yn 1842. Mewn llythyr i J.D. Hooker, 25 Awst 1863, soniodd Darwin bod y daeraregwr arloesol Charles Lyell wedi dod o hyd i "Trimmers Arctic shells on Moel Tryfan". Adroddodd Joshua Trimmer iddo ddarganfod darnau maluriedig o molwsgiaid morol ar Moel Tryfan. Dadleuodd bod eu presenoldeb yn dangos iddynt gael eu dyddodi pan fu copa Moel Tryfan tan ddŵr y môr (Trimmer 1831). Er i Darwin wneud gwaith maes ar y foel hon yn 1842, ni chanfu'r cyfryw folwsciaid[1]