Monty Python’s Flying Circus | |
---|---|
![]() Clawr llyfr a gyhoeddwyd ym Mawrth 2017. | |
Crëwyd gan | Graham Chapman John Cleese Terry Gilliam Eric Idle Terry Jones Michael Palin |
Serennu | Graham Chapman John Cleese Terry Gilliam Eric Idle Terry Jones Michael Palin Carol Cleveland |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 4 |
Nifer penodau | 45 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30-40 muned |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC1 |
Darllediad gwreiddiol | 5 Hydref 1969 – 5 Rhagfyr 1974 |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Cyfres gomedi o sgetsis swreal o Loegr oedd Monty Python's Flying Circus (a elwir yn fwy cyffredinol yn Monty Python) a redodd am bedair cyfres rhwng 1969 a 1974. Roedd y sioe yn nodedig am y steil o gomedi arbennig, a oedd yn cynnwys sgetshis gwirion ac hurt, heb linellau clo ac yn gyfuniad o hiwmor geiriol a gweledol.
Mae'n serennu Graham Chapman, John Cleese, Eric Idle, Terry Jones, Michael Palin, a Terry Gilliam. Recordiwyd y bennod gyntaf gan gwmni BBC yn Lloegr ar 7 Medi 1969 a gwelodd olau dydd am y tro cyntaf ar 5 Hydref ar BBC1, gyda 45 o benodau yn cael eu darlledu dros bedair cyfres o 1969 i 1974, ynghyd â dwy bennod ar gyfer teledu Almaeneg. Rhyddhawyd addasiad ffilm o sawl sgets, And Now for Something Totally Different, ym 1971.
Yn ôl llawer o feirniaid ffilm, roedd y gyfres yn unigryw am ei defnydd o sefyllfaoedd abswrd, a'i hiwmor llawn ensyniadau, a sgetsis heb linellau clo. Rhannwyd y sgetsys byw gydag animeiddiadau gan Gilliam, yn aml yn cyfuno gyda'r actio byw. Roedd y fformat cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer y gyfres yn dilyn ac yn ymhelaethu ar yr arddull a ddefnyddiwyd gan Spike Milligan yn ei gyfres arloesol Q..., yn hytrach na fformat y sioe sgets draddodiadol. Mae prif berfformwyr y Pythons yn chwarae'r rhan fwyaf o gymeriadau'r gyfres, gydag aelodau'r cast cefnogol gan gynnwys Carol Cleveland (y cyfeirir ati gan y tîm fel y "Seithfed Python" answyddogol, Connie Booth (gwraig gyntaf Cleese), cynhyrchydd y gyfres Ian MacNaughton, Ian Davidson, cerddor Neil Innes, a 'Fred Tomlinson a'r Fred Tomlinson Singers' am ganeuon.[1][2]
Daeth y rhaglen i fodolaeth ar ôl i’r chwe Python gyfarfod â’i gilydd yn y brifysgol, ac mewn amryw o raglenni radio a theledu yn y 1960au, gan geisio gwneud sioe gomedi newydd yn wahanol i unrhyw beth arall ar deledu gwledydd Prydain. Roedd llawer o hiwmor y gyfres yn targedu hynodion bywyd Prydain, yn enwedig bywyd proffesiynol, yn ogystal ag agweddau ar wleidyddiaeth. Mae eu comedi yn aml yn hynod ddeallusol, gyda chyfeiriadau gwallgof niferus at athronwyr a llenorion a'u gweithiau. Bwriad y tîm oedd i'w hiwmor fod yn amhosib i'w gategoreiddio, a llwyddodd mor llwyr fel y dyfeisiwyd yr ansoddair "Pythonesque" i'w ddiffinio. Nid oedd eu hiwmor bob amser yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer teledu gan y BBC, gan arwain at rywfaint o sensoriaeth yn ystod y drydedd gyfres e.e. sŵn rhech. Gadawodd Cleese y sioe yn dilyn y gyfres honno, a chwblhaodd gweddill y Pythons y bedwaredd gyfres derfynol, cyfres fyrrach, cyn dod â'r sioe i ben.
Daeth y sioe yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, ac ar ôl methu â denu cynulleidfa yn yr Unol Daleithiau i ddechrau, ond enillodd ei blwy ym 1974. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen ar ddwy ochr yr Iwerydd at deithiau byw gan y Pythons a chrewyd tair ffilm ychwanegol, tra bod yr actorion unigol yn ffynnu mewn gyrfaoedd unigol. Bu Monty Python yn ddylanwad mawr ar gomedi yn ogystal ag mewn diwylliant poblogaidd. Cafodd yr iaith raglennu digidol Python ei henwi gan Guido van Rossum ar ôl y sioe.
Gwnaed cyfanswm o 45 pennod o Flying Circus Monty Python ar draws pedair cyfres.
Cynhyrchwyd pum pennod gyntaf y gyfres gan John Howard Davies, gyda Davies yn gyfarwyddwr stiwdio, ac Ian MacNaughton yn gweithredu fel cyfarwyddwr lleoliad. O'r chweched bennod ymlaen, daeth MacNaughton yn gynhyrchydd ac unig gyfarwyddwr y gyfres. Roedd aelodau rheolaidd eraill y tîm yn cynnwys Hazel Pethig (gwisgoedd), Madelaine Gaffney (colur) a John Horton (dylunydd effeithiau fideo). Priododd Maggie Weston, a oedd yn gweithio ar golur a dylunio, â Gilliam ym 1973. Ffilmiwyd y gyfres yn bennaf mewn stiwdios yn Llundain a lleoliadau cyfagos, traethau a phentrefi yng Ngwlad yr Haf, Norwich ac ynys Jersey.
Ar ôl darlledu'r bennod gyntaf, argraffodd papurau newydd gwledydd Prydain adolygiadau byr o'r rhaglen newydd. Roedd gan yr adolygwyr farn gymysg. Ysgrifennodd un fod y sioe yn "hurt a gwamal", ac nad oedd yn "cynnig dim byd newydd na chyffrous iawn".[3] Disgrifiodd un arall y sioe fel un "joyably Goonish", gan ddweud nad oedd y deunydd i gyd yn "syfrdanol" ond bod "digon dan ei sang yn y 30 munud i godi ychydig o chwerthin."[4] Roedd colofnydd y Reading Evening Post yn fwy brwdfrydig, gan alw'r sioe yn "gomedi mawr ei hangen" a nodi bod "y chwerthin go iawn, i mi, yn dod o'r cartŵn gwallgof a'r gwaith ffoto-montage".[5]
Wrth i'r gyfres barhau, daeth adolygiadau yn fwy cadarnhaol. Ar ôl y drydedd bennod, disgrifiodd colofnydd teledu’r Guardian y sioe fel “yn ddi-os, dyma uchafbwynt penwythnos llawer o wylwyr”, gan ddweud bod yr hiwmor yn “whacky" yn hytrach nag yn ddychanol. [6] Wythnos yn ddiweddarach, rhoddodd adolygydd yr Observer "argymhelliad cryf" i'r gyfres, gan ddweud "Mae'r deunydd, er gwaethaf tueddiad i ymestyn syniad da y tu hwnt i'w hyd naturiol, o safon uchel, ond yr hyn sy'n codi'r sioe allan o'r rhigol anrhydeddus [arferol] yw ei ddefnydd rhyfeddol o gartwnau animeiddiedig."[7] Fodd bynnag, nid oedd y farn gadarnhaol hon yn unfrydol o bell ffordd. Cwynodd adolygydd yr Evening Standard fod "yr wythnos diwethaf bron wedi malu fy mrwdfrydedd a'm teyrngarwch am byth drwy drosglwyddo nifer o sgits digalon nad oedd fawr mwy na slapstic amlwg." [8]