Morfydd Clark | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Mawrth 1989 ![]() Stockholm ![]() |
Man preswyl | Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Actores o Gymraes yw Morfydd Clark (ganwyd 17 Mawrth 1989).[1][2][3] Mae'n adnabyddus am ei rhannau film fel Maud yn Saint Maud, Dora Spenlow yn The Personal History of David Copperfield, a mewn cyfresi teledu fel Mina Harker yn Dracula, Sister Clara yn His Dark Materials, a Galadriel yn The Lord of the Rings: The Rings of Power.
Ganed Clark yn Sweden, ond symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 2 mlwydd oed[4]. Mae hi'n rhugl yn Gymraeg a Saesneg, ac yn gallu siarad ychydig bach o Swedeg. Ar ôl cael trafferth gyda dyslecsia ac ADHD, gadawodd yr ysgol pan oedd hi'n 16 oed.[5]
Yn 2009 fe'i derbyniwyd i gynhyrchiad Theatr Gerdd Ieuenctid Prydain o According to Brian Haw[6] ac i Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru, cyn mynd i hyfforddi yng Nghanolfan Ddrama Llundain. Gadawodd yn ei thymor olaf i chwarae rôl y teitl yn nrama Saunders Lewis, Blodeuwedd, gyda Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae hi wedi ymddangos yn Violence and Son yn theatr y Royal Court, Llundain, fel Juliet yn Romeo and Juliet yn theatr y Crucible, Sheffield, ac yn Les Liaisons Dangereuses yn y Donmar Warehouse, Llundain.[7] Chwaraeodd hi Frederica Vernon yn ffilm Whit Stillman Love & Friendship.[8]
Yn 2016 ymddangosodd yn y ffilm The Call Up[9] ac fel Cordelia yn King Lear yn The Old Vic, Llundain.[10] Yn 2017 serennodd yn Interlude In Prague.[11][12] a phortreadodd Catherine Dickens yn The Man Who Invented Christmas. Ym mis Rhagfyr 2019 roedd si (a gadarnhawyd yn gynnar yn 2020) y byddai Clark yn portreadu fersiwn iau o’r cymeriad Galadriel yng nghyfres The Lord of the Rings ar Amazon Prime.[13]
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014 | Two Missing | Eva | Ffilm fer |
2014 | Madame Bovary | Camille | |
2014 | Falling, TheThe Falling | Charron, PamelaPamela Charron | |
2016 | Pride and Prejudice and Zombies | Darcy, GeorgianaGeorgiana Darcy | |
2016 | Love & Friendship | Vernon, FredericaFrederica Vernon | |
2016 | National Theatre Live: Les Liaisons Dangereuses | Volanges, CécileCécile Volanges | |
2016 | Call Up, TheThe Call Up | Shelly | |
2016 | Prevailing Winds, TheThe Prevailing Winds | Anna | Ffilm fer |
2017 | Interlude in Prague | Lubtak, ZuzannaZuzanna Lubtak | |
2017 | Man Who Invented Christmas, TheThe Man Who Invented Christmas | Dickens, KateKate Dickens | |
2019 | Crawl | Keller, BethBeth Keller | |
2019 | Personal History of David Copperfield, TheThe Personal History of David Copperfield | Spenlow, DoraDora Spenlow | Chwareodd Clara Copperfield hefyd, mam y prif gymeriad, ar ddechrau'r ffilm |
2019 | Saint Maud | Maud | |
2019 | Eternal Beauty | Jane ifanc |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014 | New Worlds | Amelia | Cyfres deledu fer |
2014 | Poet in New York, AA Poet in New York | Wickwire, NancyNancy Wickwire | Ffilm deledu |
2015 | Arthur & George | Mary | Pennod: "1.1" |
2018 | Alienist, TheThe Alienist | Bell, CarolineCaroline Bell | Pennod: "Silver Smile" |
2018 | City and the City, TheThe City and the City | Stark, YolandaYolanda Stark | Penodau: "Breach", "Orciny" |
2018 | Patrick Melrose | Hickman, DebbieDebbie Hickman | Pennod: "Bad News", "Some Hope" |
2018 | Outsiders | Mari | Ffilm deledu |
2019 | His Dark Materials | Sister Clara | Cyfres deledu |
2020 | Dracula | Harker, MinaMina Harker | Cyfres deledu fer |
2022 | The Lord of the Rings: The Rings of Power | Galadriel | Cyfres deledu[14] |