Morfydd Llwyn Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1891 Trefforest |
Bu farw | 7 Medi 1918 o clorofform Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr |
Arddull | opera |
Math o lais | mezzo-soprano |
Priod | Ernest Jones |
Cantores, pianydd a chyfansoddwraig o Gymru oedd Morfydd Llwyn Owen (1 Hydref 1891 – 7 Medi 1918). Cafodd ei geni yn Nhrefforest, Sir Forgannwg.
Roedd yn ferch gerddorol yn gynnar iawn yn ei hoes a phan oedd yn 16 oed dechreuodd astudio'r piano a chyfansoddi gyda David Evans. Mynychodd Ysgol Ganolradd Pontypridd cyn cael ei derbyn i Brifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth gerddorol "Caradog" 1909-12 a graddio mewn cerddoriaeth yn 1912.[1]
Symudodd i Lundain i astudio dan Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol ar ennill ysgoloriaeth Goring Thomas, 1913-7 gan ennill clod a nifer o wobrwyon am ganu a chyfansoddi.
Priododd y seiciatrydd Ernest Jones ar 6 Chwefror 1917, sef bywgraffydd swyddogol a chyfaill Sigmund Freud.[2]
Ymysg ei chyfansoddiadau ceir gweithiau i gerddorfau, corau, unawdau piano a cheir ymdeimlad personol drwy lawer o'i gwaith.
Seiliodd lawer o'i gwaith ar ganeuon gwerin a llenyddiaeth Cymru. Ymhlith ei chyfansoddiadau mwyaf nodedig y mae Gweddi Pechadur, To our Lady of Sorrows a Slumber Song of the Madonna ac yn enghreifftiau o'i hathrylith; mae'r tair, a'r dôn gynulleidfaol 'William' wedi ennill eu plwyf yng Nghymru ers blynyddoedd.
Bu pennod ar hanes bywyd Morfydd Llwyn Owen ar S4C wedi ei chyflwyno gan Ffion Hague fel rhan o'r gyfres, Mamwlad ar ddarlledwyd yn 2016.[3] Gwnaed rhaglen drama ddogfen arni yn 2003.[4] Cafwyd rhaglen arall arni yn 2018.[5]