Mort Sahl | |
---|---|
Llun gyhoeddusrwydd o Mort Sahl o 1960. | |
Ganwyd | 11 Mai 1927 Montréal |
Bu farw | 26 Hydref 2021 Mill Valley |
Label recordio | Mercury Records |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, newyddiadurwr, actor |
Prif ddylanwad | Irwin Corey |
Gwefan | http://www.mortsahlfake.com |
Digrifwr Canadaidd-Americanaidd oedd Morton Lyon Sahl (11 Mai 1927 – 26 Hydref 2021) a oedd yn amlwg am ei gomedi stand-yp wleidyddol.
Ganed ef ym Montréal, Canada, i deulu Iddewig. Symudodd y teulu i Los Angeles, Califfornia, pan oedd Mort yn 7 oed, ac yno gweithiodd ei dad yn glerc i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ac yn ddiweddarach yr FBI. Wedi iddo adael yr ysgol, gwasanaethodd yn Lluoedd Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn Alaska a'r Cefnfor Tawel ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, astudiodd rheolaeth ddinesig a pheirianneg trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Califfornia.[1]
Symudodd Sahl i ardal San Francisco yn nechrau'r 1950au, a bu'n byw yn ei gar am gyfnod wrth iddo gychwyn ar ei yrfa comedi. Daeth i'r amlwg yn y sîn gomedi wedi iddo gael ei gyfle ar lwyfan yr hungry i, prif glwb y diwylliant bohemaidd yn San Francisco. Byddai'n aml yn dwyn papur newydd yn ei law ar y llwyfan, ac yn perfformio'i fonolog cyfoes fel petai'n myfyrio wrth ddarllen straeon y diwrnod. Rhyddhawyd ei record gomedi gyntaf, Mort Sahl At Sunset, ym 1959 (er iddi gael ei recordio yn ôl ym 1955), a chafodd lwyddiant mawr gyda Mort Sahl at the Hungry I ym 1960. Daeth yn wyneb gyfarwydd ar sioeau sgwrsio a rhaglenni teledu comedi, ac ymddangosodd mewn ambell ffilm. Yn y 1950au, prif gyff gwawd Sahl oedd y weinyddiaeth Weriniaethol dan yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower a'r Is-arlywydd Richard Nixon. Bu ar anterth ei yrfa wrth ladd ar y sefydliad sychlyd yn Washington, D.C., fel arfer o safbwynt rhyddfrydol. Cyd-gyflwynodd seremoni wobrwyo Gwobrau'r Academi ym 1959, ac ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn Time ym 1960.[1]
Cafodd dro yn ei yrfa yn sgil ethol John F. Kennedy yn arlywydd ym 1960. Roedd Sahl ei hun yn gefnogwr brwd o Kennedy, ac felly bu'n anodd iddo fe, yn ogystal â'i gynulleidfa ryddfrydol, chwerthin ar ei ben. Pallai chwant y cyhoedd am ddychan gwleidyddol wedi i Kennedy gael ei saethu'n farw ym 1963, ac yn waeth fyth byddai Sahl yn obsesu am y llofruddiaeth am flynyddoedd. Ymchwiliodd i'r amryw ddamcaniaethau cydgynllwyniol ynglŷn â llofruddiaeth Kennedy, a chymerai seibiau o'i deithiau comedi er mwyn cyfweld â thystion yr achos. Byddai'n dilorni Comisiwn Warren ac yn honni yn gyhoeddus fod y CIA yn gyfrifol am y cynllwyn i ladd yr arlywydd, ac o ganlyniad na châi ei wahodd yn ôl i'r sioeau sgwrsio. Yn ei hunangofiant chwerw, Heartland (1976), haerai Sahl bod cynllwyn hyd yn oed yn gyfrifol am y cwymp yn ei yrfa.
Cafodd Sahl rywfaint o ddychweliad i fyd comedi yn sgil sgandal Watergate, ond nid oedd ei arddull o gomedi wleidyddol, a fu ar un pryd yn chwyldroadol, bellach yn unigryw iddo. Byddai'n perfformio ar deithiau yn rheolaidd hyd at ei henaint, ac yn ei nawdegau bu'n ymddangos ar y llwyfan pob wythnos mewn theatr ger ei gartref ym Mill Valley, ger San Francisco, yn dweud jôcs am yr Arlywydd Donald Trump. Cafodd dair wraig, ac un mab. Bu farw Mort Sahl yn ei gartref ym Mill Valley, Califfornia yn 94 oed.[2]