Enghraifft o: | chiral bone type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | esgyrnyn, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | esgyrnyn |
Cysylltir gyda | drwm y glust, Eingion y glust, tensor tympani muscle |
Yn cynnwys | handle of malleus, head of malleus, neck of malleus, lateral process of malleus, anterior process of malleus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae morthwyl y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp morthwyl yn y glust ganol sy'n cysylltu ag eingion y glust. Mae wedi'i gysylltu ag arwyneb mewnol drwm y glust. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r bilen i'r eingion. Weithau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n maliws o'r Lladin am forthwyl malleus[1] .
Mae'r morthwyl yn asgwrn yn y glust ganol. Dyma'r cyntaf o'r tri esgyrnyn. Mae ynghlwm wrth drwm y glust (y bilen dympanig). Pen y morthwyl yw'r adran fawr sy'n cysylltu â'r eingion. Mae'r pen yn cysylltu â gwddf y morthwyl, mae'r gwddf yn cysylltu â choes y morthwyl sydd yn ei dro yn cysylltu â drwm y glust. Rhwng y gwddf a'r goes mae'r cnap blaen a'r cnap cefn yn ymwthio allan o'r asgwrn.
Mae'r morthwyl yn unigryw i famaliaid, fe esblygodd allan o'r asgwrn cymalol yn rhan isaf yr ên yn yr amniotau cynharaf. Mae'r asgwrn cymalol yn parhau i fod yn rhan o'r ên mewn ymlusgiaid ac adar[2].
Mae'r morthwyl yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r bilen dympanig (drwm y glust) i'r glust fewnol. Mae'r morthwyl yn derbyn dirgryniadau o'r bilen dympanig ac yn eu trosglwyddo i'r eingion.
Mae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad morthwyl y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[3]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[4] y morthwyl mewn ychydig mwy o fanylder ac fe'i cyffelybodd ef a'r eingion â morthwylion bychan gan eu galw'n malleoli.