![]() | |
Enghraifft o: | mosg ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 636 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Rhanbarth | Jenin ![]() |
![]() |
Mosg Fatima Khatun (Arabeg: جامع جنين الكبير) a elwir hefyd yn Fosg Mawr Jenin, yw prif fosg dinas Jenin yng ngwlad Palestina, Saif yng ngogledd y Lan Orllewinol. Wrth ymyl y mosg mae Ysgol Ferched Fatima Khatun sy'n dal ar agor.[1]
Roedd mosg adfeiliedig yn dyddio'n ôl i 636 yn sefyll ar y safle. Fe'i hadnewyddwyd yn ystod oes Mamluk yn y 14g, ond eto fe aeth yn adfail.[1][2]
Sefydlwyd y strwythur presennol ym 1566 gan Fatima Khatun, gwraig Lala Kara Mustafa Pasha, llywodraethwr Bosnia yn Damascus yn ystod teyrnasiad y swltan Otomanaidd Swleiman I. Roedd Fatima Khatun yn ymweld â'r ardal yn rheolaidd, ond roedd yn hoff iawn o Jenin wrth deithio tuag at Jeriwsalem ar bererindod.[1] Yng nghanol Jenin, penderfynodd sefydlu'r adeilad ar ben gweddillion yr hen fosg. Dynodwyd nifer o ymddiriedolaethau crefyddol (waqf ) gan gynnwys baddon cyhoeddus lleol (hamaam) a llawer o'r siopau cyfagos i ariannu Mosg Fatima Khatun wedi hynny, ar ffurf treth.[2]
Heddiw, mae'n gwasanaethu fel mosg mwyaf Jenin.