![]() | |
Enghraifft o: | mosg ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Rhanbarth | Al-Bireh ![]() |
![]() |
Mosg Jamal Abdel Nasser (Arabeg: مسجد جمال عبد الناصر Masjid Jamal 'Abd an-Nasser) yw'r mosg fwyaf yn al-Bireh, tref 15 km i'r gogledd o Jerwsalem gyda phoblogaeth o oddeutu 40,000 ar y Lan Orllewinol, Palestina. Leolir y mosg yng nghanol y dref. Enwyd hi ar ôl diweddar arlywydd yr Aifft ac arweinydd cenedlaetholdeb Arabaidd, Gamal Abdel Nasser.[1]
Pan agorwyd y mosg yn 1970 ei henw gwreiddiol oedd Mosg Newydd Al-Bireh. Wedi marwolaeth Nasser, penderfynwyd ei henwi ar ei ôl.[2] Yn Intifada Cyntaf Palesteina, galwodd trigolion y dref y mosg ar ôl Sayyid Qutb - Eifftwr, bardd, addysgwr, Islamydd a ystyrir yn "Tâd Jihadiaeth Salafi", yr athrawiaeth grefyddol-wleidyddol sy'n sail i wreiddiau ideolegol sefydliadau Jihadistiaid byd-eang fel al-Qaeda ac ISIL.[3] Crogwyd ef yn 1966 ar gyhuddiad o geisio dienyddio Nasser. Galwyd y mosg hefyd yn Mosg y Merthyron gan ddefnyddio ei lleoliad ar gyfer angladdau'r bobl a laddwyd yn y gwrthdaro. Gelwir pobl tref Al-Bireh y mosg yn Mosg Mawr Al-Bireh.
Ar 14 Mawrth 2002, meddiannodd Byddin Israel (IDF) y mosg a defnyddio ei minaret ar gyfer cêl-saethu, gan ladd pedwar Palesteinad.[4]
Ar 22 Medi 2007, gorymdeithiodd dwsinau o wragedd carcharorion gwleidyddol cysylltiedig â Hamas ac aelodau benywaidd eraill Hamas o Fosg Jamal Abdel Nasser at Sgwâr Al-Manara. Roeddynt yn protest yn erbyn yr hyn a welent fel carchariad gwleidyddol eu perthnasau gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (y PA). Fe'u hataliwyd rhag cyrraedd y sgwâr pan ddefnyddiodd lluoedd diogelwch PA nwy rhwygo i'w gwasgaru.[5]