Enghraifft o: | mosg ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1455 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Rhanbarth | Dinas Gaza ![]() |
Mosg cynulleidfaol a madrasa a adeiladwyd ym 1455 yn Ninas Gaza, Palestina yw Mosg Mahkamah (a elwir hefyd yn Fosg Birdibak neu Madrasa o Amir Bardabak). Gellir trawslythrenu'r enw Arabeg 'Mahkamah' i Jāmi 'al-Mahkamah al-Birdibakiyyah mewn orgraff Ladin.
Dinistriwyd y mosg yn llwyr gan fomiau byddin Israel yn ystod yr ymosodiad ar Gaza yn 2014.[1] Roedd y mosg wedi'i leoli ar hyd Baghdad Street ger prif fynedfa orllewinol ardal Shuja'iyya yn Ninas Gaza.
Adeiladwyd y mosg ym 1455 ar orchmynion Sayf al-Din Birdibak al-Ashrafi, dawadar (neu gynrychiolydd) y swltan Mamluk Sayf al-Din Inal . Roedd Birdibak yn grefyddol iawn a chynullodd gynhadledd flynyddol i drafod Hadith (canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim) yr ysgolhaig Mwslimaidd o'r 9g Muhammad al-Bukhari. Cyrhaeddodd Sayf al-Din Birdibak al-Ashrafi swyddi uchel yn nhalaith Mamluk ac adeiladodd ddau 'fosg dydd Gwener' arall yn Damascus a Cairo. Yn wreiddiol roedd Mosg Mahkamah yn rhan o madrasa ("ysgol grefyddol"), ac addysg oedd prif swyddogaeth yr adeilad. Roedd gweddïau hefyd yn cael eu cynnal yn rheolaidd bob dydd Gwener.[2]
Yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid rhwng yr 16g a dechrau'r 20g, roedd yr ysgol yn gweithredu fel llys ar gyfer qadis y ddinas ("barnwyr"), a dyna pam ei henw arferol, Arabeg al-Mahkamah ("y Llys.")[2] Yn niwedd y 19g daeth yr ysgolhaig Swistiraidd Max van Berchem o hyd i arysgrif Kufic wedi'i osod dros mihrab (neu "bulpud") y mosg a oedd yn perthyn i garreg fedd Muhammad ibn al-Abbas al-Hashimi,[3] aelod o deulu Hashemite a fu farw yn Gaza ddiwedd y 9g.[4] Ar ben mynedfa'r mosg mae'r arysgrif sylfaen sy'n coffau Birdibak am adeiladu'r mosg ac anrhydeddu Swltan Inal.[5]
Yn ystod y cyfnod Mandad Prydeinig yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd fel ysgol grefyddol y bechgyn dan yr enw Madrasa al-Shuja'iyya al-Amiriyya. Chwalwyd y mosg yn llwyr gan lu awyr Israel yn Operation "Protective Edge".
Adeiladwyd y mosg yn null Burji Mamluk.[6] Mae'n enghraifft unigryw o bensaernïaeth Mamluk, ar ôl cael ei dylanwadu'n fawr gan fosg-madrasas Ayyubid cynharach. Yn benodol, mae cilfachau ffasâd y gogledd yn debyg iawn i elfennau pensaernïol Ayyubidaidd yn yr Aifft a Syria.[7] Mae'r cyfadeilad yn cynnwys sahn canolog ("cwrt") wedi'i leoli 1.2 metr yn is na lefel y stryd.