Mae'r Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau (neu BDS) yn fudiad byd-eang[1] sy'n ceisio cynyddu'r pwysau economaidd a gwleidyddol ar Israel i gydymffurfio gyda nodau ac amcanion y mudiad. Maen nhw'n galw ar Israel:
Cychwynwyd yr ymgyrch ar 9 Gorffennaf 2005 gan 171 o Balesteiniaid a alwaodd am sancsiynau rhyngwladol yn erbyn Israel. Galwodd y grwp ar Israel i gydymffurfio gyda phenderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig. Mae eu hymgyrch yn adleisio ymgyrchoedd gwrth-Apartheid y 60au a'r 70au yn Ne Affrica.[2] Galwodd y BDS am foicotio mewn gwahanol ac amrywiol ffyrdd - hyd nes fod Israel yn cydymffurfio gyda deddwriaeth rhyngwladol.[3]
Ym Mawrth 2009, cafwyd sawl protest gan fyfyrwyr mewn sawl Prifysgol gan gynnwys Prifysgol Caerdydd ble gwelwyd awdurdodau'r coleg yn dadfuddsoddi eu daliadau yn BAE Systems, sef gwneuthurwr arfau milwrol sy'n cydweithredu gydag Israel.[1] Ym Mai 2009, tynnwyd hysbysebion twriastaidd Israel o'r Underground yn Llundain.[1] Yng Ngorffennaf 2009, ataliodd y grwp o Wlad Belg Dexia, pob gwasanaeth ariannol i Israeliaid a oedd yn meddiannu tiroedd y Llain Gorllewinol.[1]
Yn Rhagfyr 2012 penderfynodd Cronfa Bensiwn Seland Newydd na fyddent yn buddsoddi mewn tri chwmni adeiladu oherwydd eu cysylltiad Israelaidd.
Cronfa Bensiwn Lwcsembwrg yn esgymuno wyth cwmni o'u buddsoddiadau oherwydd eu bod wedi cynorthwyo i dorri hawliau dynol. Roedd y cwmni Americanaidd Motorola Solutions yn un o'r rhain.[4]
Yn ionawr 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Norwy na fyddai eu Cronfa Bensiwn yn buddsoddi mewn dau gwmni o Israel (Africa Israel Investments a Danya Cebus) "oherwydd eu cyfraniad i dorri hawliau dynol mewn rhyfel drwy ddymchwel tai Palesteinaidd yn Nwyrain Jeriwsalem.[5]
Yn Ionawr 2014 cyhoeddodd banc mwyaf Denmarc (Danske Bank), sancsiynau yn erbyn Bank Hapoalim, am weithredu yn erbyn rheolau a deddfau dyngarol rhyngwladol drwy fuddsoddi mewn tai Israeliaid oddi fewn i diriogaeth y Palesteiniaid yn y Llain Gorllewinol.[5]
Ym Mehefin 2014, cyhoeddodd yr Eglwys Fethodistiaeth eu bod wedi gwerthu eu daliadau yn y cwmni G4S (gwerth $110,000).[6] Yn yr un mis, cyhoeddodd Ashley Almanza, Prif Weithredwr G4S' na fyddent yn adnewyddu eu contract gydag Israel.
Ym Mehefin 2014 gwagiodd staff y Siop John Lewis o rai cynnyrch o Israel gan gynnwys nwyddau 'SodaStream'; roedd hyn yn dilyn protestiaiadau ddwywaith yr wythnos gan BDS yn erbyn cynnyrch o Israel. Ceuodd 'Sodastream' eu strordy yn Brighton yn dilyn protestiadau dwy flynedd - yng Ngorffennaf 2014.[7]
|publisher=
(help)