Symudiad gweriniaethol Cymru yw ideoleg wleidyddol dros weriniaeth Gymreig, yn hytrach na bod Cymru'n cael ei llywyddu gan frenhiniaeth y Deyrnas Unedig.
Yn nodweddiadol, awgrymir yr ideoleg hon fel elfen o ffurfio Cymru annibynnol, ond gellir ei hystyried hefyd fel rhan o ddiwygio system lywodraethol y Deyrnas Unedig, a allai gynnwys cyflwyno swyddog etholedig yn bennaeth y wladwriaeth.
Yn y 13eg ganrif, gorfodwyd Tywysog olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf i gytundeb gan Edward I o Loegr a welodd bwerau Llywelyn yn gyfyngedig i Wynedd yn unig. Yn 1282 tra'n ceisio casglu cefnogaeth yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt, lladdwyd Llywelyn gan un o filwyr Edward. Bu brawd Llywelyn, Dafydd ap Gruffydd, yn arwain milwyr Cymreig am gyfnod byr, ond cafodd ei ddal a'i grogi, ei dynnu a'i chwarteru gan Edward, gan ddod ag annibyniaeth Cymru i ben.[1][2]
Ers y goncwest, bu gwrthryfeloedd Cymreig yn erbyn rheolaeth Lloegr. Y gwrthryfel olaf, a’r mwyaf arwyddocaol oedd Gwrthryfel Glyndŵr 1400–1415, a adferodd annibyniaeth am gyfnod byr. Cynhaliodd Owain Glyndŵr y Senedd Gymreig gyntaf ym Machynlleth yn 1404, lle y cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru ac ail senedd yn 1405 yn Harlech. Fe gafwyd cyfnod byr o annibyniaeth, ond trechwyd Glyndwr yn y pen draw ac ni chafwyd corff llywodraethol arall i Gymru tan 1999. Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 a fe ailenwyd yn Senedd Cymru yn 2020.[3][4]
Dywedodd Cliff Bere, un o sylfaenwyr y Mudiad Gweriniaethol Cymreig, ar ddechrau’r 1950au, “Mae Coron Lloegr yn dal i fod yn rhan bwysig o beirianwaith goruchafiaeth Lloegr, gan gyhuddo gwleidyddion o bob arlliw o fod yn barod i fanteisio ar ddefnyddioldeb coron Lloegr … fel modd o gadw goruchafiaeth ar genhedloedd Celtaidd Prydain”.[7]
Yn ystod arwisgiad Charles, Tywysog Cymru ym 1969, gwelwyd gwrthwynebiad cryf gan genedlaetholwyr Cymreig, gyda'r sefyllfa wedi'i disgrifio cyn yr arwisgiad fel "rhywbeth agos at ryfela agored rhwng heddlu'r Llywodraeth a phobl ifanc Cymru".[8]
Grŵp gwleidyddol byr oedd Mudiad Gweriniaethol Sosialaidd Cymru a ddaeth i'r amlwg yn dilyn refferendwm datganoli 1979 a ymgyrchodd dros weriniaeth annibynnol Gymreig a sosialaidd.[9]
Mae gan blaid fwyaf Cymru sydd o blaid annibyniaeth, sef Plaid Cymru, safbwynt niwtral ar y goron, ac mae Plaid Cymru yn cynnig cynal refferendwm ar ôl annibyniaeth ar statws y frenhiniaeth yng Nghymru. Mae gan Blaid Cymru nifer o aelodau a chefnogwyr gweriniaethol, gan gynnwys cyn arweinydd y blaid, Leanne Wood.[10][11]
Dadleuodd Bethan Sayed AS yn 2019 na ddylai aelodau’r Senedd orfod tyngu llw o deyrngarwch i’r frenhines, ac yn lle hynny y dylid caniatáu iddynt dyngu llw o deyrngarwch a gwasanaeth dros bobl Cymru.[12]
Yn 2021, fe wnaeth y grŵp Republic ariannu hysbysfyrddau ar draws Prydain yn galw am ddileu’r frenhiniaeth, gyda hysbysfyrddau yn ymddangos yng Nghymru yn Aberdâr, Abertawe a Chaerdydd yn datgan yn Gymraeg a Saesneg “nad oes angen tywysog ar Gymru”, gan gyfeirio at Charles.[13][14]
Mae Plaid Werdd Cymru yn cefnogi gweriniaeth Gymreig pe bai Cymru yn dod yn annibynnol.[15] Mae'r blaid wedi datgan pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar fater annibyniaeth i Gymru yna byddai'n cefnogi annibyniaeth i Gymru.[16]
Nid oes gan Propel na Cymru Sofran safbwynt ar y frenhiniaeth na Phennaeth Gwladol mewn Cymru annibynnol,[17][18] tra bod Plaid Sosialaidd Cymru yn hyrwyddo 'Cymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon'.[19]
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi datgan y bydd trafodaethau yn y dyfodol am bennaeth gwladwriaeth etholedig yng Nghymru, ond "nid yr wythnos hon" yn ystod y "cyfnod o alaru" am y Frenhines.[20]
Fe wnaeth torf lleiafrifol o brotestwyr leisio eu gwrthwynebiad at ddigwyddiadau yng Nghaerdydd oedd yn cyhoeddi esgyniad Siarl III.[21] Ar ymweliad Charles â Chastell Caerdydd, cynheliwyd protest dawel yn erbyn y frenhiniaeth gan yr undebau llafur, Llafur dros Gymru Annibynnol ac ymgyrchwyr cydraddoldeb, dan arweiniad Bethan Sayed.[22]
Disgrifiodd CNN Gymru fel y wlad fwyaf 'gelyniaethus' i ymweliad Charles. Dywedodd un dyn: “Tra ein bod ni’n brwydro i gynhesu ein cartrefi, mae’n rhaid i ni dalu am eich parêd.” Ochneidiodd y Brenin Siarl, gan ddweud “o” a throi i ffwrdd. Dywedodd y dyn wedyn “Da ni’n talu £100 miliwn y flwyddyn ar gyfer chi, ac am beth?” Roedd protestwyr y tu allan i Gastell Caerdydd yn dal baneri a oedd yn dweud “Diddymu’r Frenhiniaeth”, “Dinesydd, nid ”, “Democratiaeth nawr”.[23]
Fe wnaeth aelod Senedd rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell ofyn am gymdeithas "fwy cynhwysol" ac "egalitaraidd" bresennol, nad oedd "angen brenhiniaeth o gwbl".[24][25]
Dwedodd Laura McAllister, academydd a chyn bêl-droediwr rhyngwladol ac uwch weinyddwr chwaraeon, “Rwy’n weriniaethwr ond, os ydw i’n onest, mae’n eithaf isel ar fy rhestr o flaenoriaethau fy hun. Yn bendant nid sofran etifeddol yw’r gynrychiolaeth o’m cenedl y byddwn i’n ei dewis, ond mae tlodi, addysg a newid yn yr hinsawdd yn fwy pwysig i mi na'r ddadl benodol hon.”[26]
Cafodd arwisgiad y Tywysog Charles yn 1969 ei "groesawu'n fawr" yng Nghymru gan rai[27] ond bu protestiadau a ddisgrifiwyd fel mudiad gwrth-arwisgo, hefyd yn y dyddiau cyn y seremoni.[28][29] Roedd mudiadau ac unigolion Cymreig yn erbyn y digwyddiad yn cynnwys Dafydd Iwan,[30]Edward Millward,[31] Cofia 1282 ('Cofiwch 1282'),[32] a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.[33] Ar ddiwrnod yr arwisgiad, cafodd rhai protestwyr eu harestio.[34]
Ers hynny, mae sefydliadau a ffigurau amlwg eraill yng Nghymru wedi galw am roi terfyn ar y teitl Tywysog Cymru. Mae hyn yn cynnwys AS Plaid Cymru, Adam Price, a alwodd yn 2006 am refferendwm i ddod â theitl Tywysog Cymru i ben.[35] Dychwelodd yr actor Cymreig Michael Sheen ei OBE yn 2017, er mwyn iddo allu ymgyrchu i ddod â’r teitl i ben.[36]
Yn dilyn derbyn Siarl III i’r orsedd ar 8 Medi 2022, awgrymodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i’r cyfryngau fod gan deitl Tywysog Cymru unrhyw "ddim ystyr iddo yn y cyfansoddiad” ac y gellid ei derfynu.[37] Pan drosglwyddwyd y teitl i'r Tywysog William o fewn ychydig ddyddiau, mynegwyd gwrthwynebiad pellach.[38] Cododd y grŵp ymgyrchu, Republic, £25,000 i osod hysbysfyrddau yn datgan "Nid oes angen tywysog ar Gymru".[39] Lansiwyd deiseb yn galw am ddileu’r teitl ‘Tywysog Cymru’, a dderbynodd dros 35,000 o lofnodion.[40] Fe wnaeth Prif Weinidog Mark Drakeford,[41] Adam Price AS,[42]Jane Dodds MS,[43] ac YesCymru[44] gydnabod fod potensial ar gyfer dadl neu penderfyniad Cymreig. Ar 6 Hydref pleidleisiodd Cyngor Gwynedd, yr awdurdod lleol lle arwisgwyd Charles yn 1969, i ddatgan gwrthwynebiad i'r teitl 'Tywysog Cymru' ac hefyd eu gwrthwynebiad i arwisgiad arall yng Nghymru.[45]
Yn 2019, datgelodd arolwg barn Focaldata a gomisiynwyd gan UnHerd fod cefnogaeth y teulu brenhinol yng Nghymru ("Rwyf yn gefnogwr cryf i deyrnasiad parhaus y Teulu Brenhinol") ar ei isaf yn Nwyrain Abertawe ar 40% (21% yn gwrthwynebu) ac uchaf yn Sir Drefaldwyn ar 61% (18% yn erbyn).[69]
Cynhaliwyd yr arolwg barn gan YouGov ym mis Mawrth 2022. Gofynnodd yr arolwg am farn 3,041 o bobl Cymru am y frenhiniaeth. Dangoswyd fod 55% yn cefnogi'r frenhiniaeth tra byddai'n well gan 28% gael pennaeth gwlad etholedig (66.3% yn erbyn 33.7% heb gynnwys ddim yn gwybod/amwys).[70]
↑Moore, Dylan (7 Mehefin 2022). "Coronation Everest: A Welsh republican at the summit of monarchy and imperial adventure". The National (Wales). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-31. Cyrchwyd 12 Medi 2022. Writing to mark the fiftieth anniversary of the expedition in 2003, Morris wryly observes that her role in reporting the successful ascent was "very improbabl[e], for I am a lifelong republican", nevertheless describing the coincidence of the queen’s coronation and the breaking news of Everest's conquest as ‘a happy conjunction’.
↑Gwyn A. Williams, Review of The Enchanted Glass by Tom Nairn, Marxism Today (Mehefin 1988), t.43
↑Gossedge, Rob; Morra, Irene, gol. (2016). The new Elizabethan age : culture, society and national identity after World War II. I.B.Tauris. ISBN978-0857728678.