Mudiad cymdeithasol yw'r mudiad meddalwedd rhydd (Saesneg: Free Software Movement neu FSM) neu fudiad meddalwedd agored/rhydd (Saesneg: free/libre open source software neu FOSSM) neu feddalwedd ffynhonnell agored/rhydd (FLOSS)[1] gyda'r nod o sicrhau a gwarantu rhyddid penodol ar gyfer defnyddwyr meddalwedd, sef y rhyddid i redeg y meddalwedd, i astudio ac i newid y meddalwedd, ac i ailddosbarthu copïau gyda neu heb newidiadau. Er ei fod yn tynnu ar draddodiadau ac athroniaethau ymhlith aelodau o ddiwylliant hacio a'r byd academaidd o'r 1970au, sefydlwyd y mudiad yn ffurfiol gan Richard Stallman yn 1983 drwy lansio Prosiect GNU.[2]
Sefydlodd Stallman y Free Software Foundation yn 1985 i gefnogi'r mudiad.
Athroniaeth y mudiad yw na ddylai'r defnydd o gyfrifiaduron arwain at bobl gael eu hatal rhag cydweithio â'u gilydd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu gwrthod "meddalwedd perchnogol", sy'n gosod cyfyngiadau o'r fath, a hyrwyddo meddalwedd rhydd,[3] gyda'r nod yn y pen draw o rhyddhau pawb yn y seiberofod[4] – hynny yw, bob defnyddiwr cyfrifiadur. Nododd Stallman fod y weithred hon yn hybu yn hytrach na rhwystro datblygiad technoleg, am ei fod yn "golygu bod llawer o ddyblygu gwastraffus o waith rhaglennu system yn cael ei osgoi. Yn hytrach, gall yr ymdrech hon fynd at wella'r grefft bresennol".[5]
Mae aelodau o'r mudiad dros feddalwedd rhydd yn credu dylai holl ddefnyddwyr meddalwedd gael y rhyddid a restrir yn y Diffiniad Meddalwedd Rhydd. Mae llawer ohonynt yn credu ei bod yn anfoesol gwahardd neu atal pobl rhag gweithredu y rhyddid hyn a bod angen y rhyddid yma i greu cymdeithas weddus lle gall defnyddwyr meddalwedd helpu ei gilydd, ac i gael rheolaeth dros eu cyfrifiaduron.[6]
Mae rhai defnyddwyr a rhaglennwyr meddalwedd rhydd yn credu nad yw defnyddio meddalwedd perchnogol yn gwbl anfoesol, gan nodi mwy o elw yn y modelau busnes sydd ar gael ar gyfer meddalwedd perchnogol neu nodweddion technegol a chyfleustra fel eu rhesymau.[7]
Mae'r Free Software Foundation hefyd yn credu bod angen i holl feddalwedd rhydd gael dogfennaeth rhydd, yn benodol oherwydd dylai rhaglennwyr cydwybodol allu ddiweddaru llawlyfrau i adlewyrchu unrhyw addasiadau maent yn gwneud i feddalwedd, ond yn ystyried y rhyddid i addasu fod yn llai pwysig ar gyfer mathau eraill o weithiau ysgrifennedig.[8] O fewn y mudiad meddalwedd rhydd, mae sefydliad y Llawlyfrau FLOSS yn arbenigo ar y nod o ddarparu dogfennau o'r fath. Mae aelodau o'r mudiad meddalwedd rhydd hefyd yn argymell dylai gwaith sy'n gwasanaethu pwrpas ymarferol, hefyd fod yn rhydd.[9]