Mewn ffiseg, mae mudiant harmonig syml yn fudiant gan osgiliadur harmonig syml sydd ddim yn cael ei yrru neu'i wanychu. Profa corff mewn mudiant harmonig syml rym unigol a roddir gan Ddeddf Hooke; hynny yw, mae'r grym mewn cyfrannedd â dadleoliad x ac yn pwyntio i'r cyfeiriad cyferbyniol