Enghraifft o: | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1934 |
Grŵp ymgyrchu a oedd yn cynrychioli trigolion Gwyddeleg y Gaeltacht[1] oedd Muintir na Gaeltachta (Cymraeg: Pobl y Gaeltacht).[1] Fe'i sefydlwyd yn ystod gaeaf 1933–34, gyda Seán Ó Coisdeala, athro ysgol genedlaethol o Tully yn Conamara, yn Llywydd a Pádraig Seoige yn ysgrifennydd.
Roedd sylfaenwyr eraill yn cynnwys Peadar Duignan, (a aeth yn ei flaen i sefydlu papur wythnosol Wyddeleg, Amárach, sef "Yfory" yn Gymraeg, yn 1956) Seán Tubridy, a Máirtín Ó Cadhain.[2][3] Ym 1935, ar y cyd â'r Comisiwn Tir, helpodd i sefydlu Gaeltacht Swydd Mí yn Ráth Chairn trwy drawsblannu teuluoedd Gwyddelig o dalaith Connacht yn y gorllewin.[4][2] Roedd ei swyddfa yn Kells, Sir Meath.[5] Roedd yn gorff enwebu cofrestredig ar gyfer Panel Diwylliannol ac Addysgol Seanad Éireann trwy etholiad 1997.[5]