Lestes dryas | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Zygoptera |
Teulu: | Lestidae |
Genws: | Lestes |
Rhywogaeth: | L. dryas |
Enw deuenwol | |
Lestes dryas Kirby, 1890 |
Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Lestidae (Teulu'r Mursennod Gwyrdd) yw'r Mursen werdd brin sydd o fewn y genws a elwir yn Lestes (llu: mursennod gwyrdd prin; Lladin: Lestes dryas; Saesneg: Scarce Emerald Damselfly; Saesneg Iwerddon: turlough spreadwing). Mae'r mursenod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen werdd brin i'w chael yn rhannau mwyaf gogleddol o Ewrasia a Gogledd America, ac yn ysbeidiol yng Ngogledd Affrica.[1] Gall L. dryas fyw mewn tymheredd eithafol, ac yn hyn o beth mae bron yn unigryw o'r holl furesennod.
Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.
Mae'r oedolyn yn mesur rhwng 35 – 42 mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mehefin a Medi. Mae'r gwryw ychydig yn hirach na'r fenyw (47mm) ond mae adenydd y fenyw yn hirach na'r gwryw (45mm).[2]
Fel aelodau eraill y genws Lestes, mae lliw'r gwryw a'r fenyw yn wyrdd metalig, gyda gwawr efydd. Pan font yn llonydd, mae eu hadenydd yn gil-agored.