Math | amgueddfa genedlaethol, amgueddfa archaeolegol, oriel gelf |
---|---|
Enwyd ar ôl | Giuseppe Tucci |
Agoriad swyddogol | 1958 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhufain |
Gwlad | yr Eidal |
Arwynebedd | 1,600 m², 2,101 m² |
Cyfesurynnau | 41.832465°N 12.471674°E, 41.83274°N 12.47154°E |
Cod post | 00144, 00185 |
Perchnogaeth | Ministry of Culture |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Manylion | |
Amgueddfa fechan ond bwysig yn Rhufain, prifddinas yr Eidal, a gysegrir i weithiau celf y Dwyrain, o'r Dwyrain Canol i Siapan, yw'r Museo nazionale d'arte orientale ('Amgueddfa Celf Ddwyreiniol Genedlaethol').
Un o brif atyniadau'r amgueddfa yw casgliad o wrthrychau arbennig o wareiddiad Fwdhaidd Gandhara (Pacistan), ffrwyth archwilio archaeoloegol gan archaeolegwyr Eidalaidd yn Swat, gogledd Pacistan. Ceir yn ogystal waith celf o Balas Mas'ud III a chysegrfan Fwdhaidd Tape Sardar yn Ghazni, Affganistan, o ddinas gynhanesyddol Shahr-e Sokhteh yn nwyrain Iran, a gwrthrychau celf eraill o Nepal, Tibet a Ladakh a gasglwyd gan Giuseppe Tucci ar ei deithiau yn Asia yn 1928-1948.