Mynydd Islwyn

Mynydd Islwyn
Enghraifft o'r canlynolardal boblog Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerffili Edit this on Wikidata

Roedd Mynydd Islwyn yn blwyf hynafol yn Esgobaeth Llandaf a Sir Fynwy.[1] Canolfan y plwyf oedd Eglwys Sant Tudur sydd yn sefyll 300medr / 1,000 troedfedd uwchben lefel y môr yn agos i gopa'r mynydd a rhoddodd ei enw i'r plwyf.[2] Roedd yr eglwys yn gwasanaethu ardal eang o tua 6,500 hectar / 16,000 acer. Roedd yn ardal wledig, prin o boblogaeth, gydag amaethyddiaeth a choedwigaeth yn brif ddiwydiannau. Roedd plwyf hynafol Mynyddislwyn yn gorchuddio rhan fawr o ddyffrynnoedd isaf Ebwy a Sirhywi.[3]

Roedd pedwar pentrefan o fewn y plwyf Gelligroes, Penllwyn, Pontllan-fraith ac Ynys-ddu.[4]

Yn y 18 a 19C bu diwydiannu helaeth yn yr ardal a daeth a newidiadau mawr i sefyllfa demograffeg, cymdeithasol ac economaidd y plwyf. Tyfodd y pentrefannau bach gwledig yn bentrefi diwydiannol o bwys a chodwyd pentrefi a threfi newydd yn yr hen blwyf. Ymysg yr aneddleoedd newydd mae Aber-carn, Cefn Fforest, Cwm Carn, Cwmfelinfach, Crymlyn, Gwrhey, Oakdale, Penmaen, Trecelyn, Trinant, Wattsville.[5]

I wasanaethu'r aneddleoedd newydd bu raid i'r Eglwys Anglicanaidd codi eglwysi newydd a ffurfio nifer o blwyfi newydd gan chwalu'r plwyf hynafol. Er hyn y mae 12 o'r plwyfi a grëwyd allan o Fynyddislwyn yn parhau i ffurfio Ardal Weinidogaeth Islwyn, yr Eglwys yng Nghymru.[6] Mae Eglwys Sant Tudur bellach yng Nghymuned y Coed-duon.

Ym 1903 ffurfiwyd ardal cymuned ddinesig o'r enw Mynydd Islwyn, a oedd yn cynnwys rhan fawr o'r hen blwyf eglwysig. Daeth y cyngor dinesig i ben o dan ad-drefniant llywodraeth leol 1974 pan ddaeth yn rhan o Fwrdeistref Islwyn o fewn Cyngor Sir Gwent.[7] Ar ôl ad-drefniant llywodraeth leol 1996, daeth y rhan fwyaf o'r hen blwyf yn rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. GENUKI. "Genuki: Mynyddislwyn, Monmouthshire". www.genuki.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-02.
  2. "Eglwys Sant Tudur, Mynyddislwyn". Coflein-Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. 2 Ebrill 2024.
  3. Jones (Meudwy Môn), Owen (1875). "Mynydd Islwyn". Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol, a Bywgraphyddol. 2. Llundain: Blackie. t. 352.
  4. "OAKDALE VILLAGE - History of Mynyddislwyn". web.archive.org. 2008-11-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-21. Cyrchwyd 2024-04-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. GENUKI. "Church list, Mynydd Islwyn". www.genuki.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-02.
  6. "Islwyn Ministry Area - The Church in Wales". www.churchinwales.org.uk. Cyrchwyd 2024-04-02.
  7. Deddf Llywodraeth Leol 1972 Atodlen 4
  8. "Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili". www.caerffili.gov.uk. Cyrchwyd 2024-04-03.