Mynydd Llandygái

Mynydd Llandygái
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1691°N 4.0958°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH603655 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Llandygái, Gwynedd, Cymru, yw Mynydd Llandygái[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Mynydd Llandegai).[2] Fe'i lleolir ger ffin Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng Moelyci a'r Glyderau. "Gwaun Gynfi" yw'r enw ar y gweundir a adeiladwyd y pentref arno, ac ar y Waun sy'n weddill i'r gorllewin.

Tyfodd y pentref tra roedd Chwarel y Penrhyn yn ei hanterth, ac mae presenoldeb y chwarel ac argae Gorsaf bŵer Dinorwig yn gwrthgyferbyn â thirlyn naturiol yr ardal o hyd.

Ffurfir calon y pentref gan ddwy stryd gyfochrog, Tan y Bwlch a Llwybr Main, a adeiladwyd ar gyfer chwarelwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llain hir o dir yn gysylltiedig â phob tŷ ar y ddwy stryd.

Mae gwasanaeth bws o'r pentref i Fethesda a Bangor, y trefi agosaf. Pentref cyfagos eraill yw Tregarth (i'r gogledd-ddwyrain) a Dinorwig (yr ochr draw i'r Waun a'r Bwlch i'r gorllewin). Lleolir yr ysgol gynradd lleol, Ysgol Bodfeurig, yn Sling rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU