Golwg ar Fynyddoedd Cantabria, yn gyfochrog â Môr Cantabria, fel y gwelir o gopa Castro Valnera. Yn y cefndir, gwelir Parc Cenedlaethol Montaña Palentina ar y chwith a Picos de Europa ar y dde. | |
Math | mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Môr Cantabria |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cantabria, Asturias, Galisia, Castilla y León, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 2,648 metr |
Yn ffinio gyda | Meseta |
Cyfesurynnau | 43.1975°N 4.8517°W |
Hyd | 480 cilometr |
Deunydd | calchfaen |
Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd Sbaen yw Mynyddoedd Cantabria (Sbaeneg: Cordillera Cantábrica, Astwrieg: Cordelera Cantábrica, Galisieg: Cordal Cantábrico) sydd yn ymestyn ar hyd yr arfordir â Môr Cantabria am ryw 300 km, o Fasiff Galisia yn y gorllewin a thrwy daleithiau Asturias a León, Cantabria, Palencia a Burgos, hyd at y Pyreneau yng Ngwlad y Basg yn y dwyrain. Copa ucha'r gadwyn yw Torre Cerredo (2,650 m), a leolir yn grŵp Picos de Europa yng nghanolbarth Mynyddoedd Cantabria.
Saif y mynyddoedd mewn rhanbarth coediog, yn llawn ffawydd a phinwydd arfor, a chyfoethog yn nhermau'i adnoddau naturiol, gan gynnwys glo a haearn. Cynhyrchir trydan dŵr o'r nentydd ar lethrau gogleddol y mynyddoedd ar gyfer trefi'r arfordir, a defnyddir yr afonydd hirach yn y de i ddyfrhau ffermydd. Prif sector amaethyddol yr ardal yw ffermio gwartheg. Mae'r rheilffordd o Oviedo i León yn croesi Mynyddoedd Cantabria drwy Fwlch Pajares ar uchder o 1,379 m.[1]