Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dyffryn Hollt Mawr |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Wganda |
Arwynebedd | 1,000 km² |
Uwch y môr | 5,109 metr |
Cyfesurynnau | 0.3858°N 29.8717°E |
Hyd | 120 cilometr |
Deunydd | craig fetamorffig |
Mynyddoedd yng nghanolbarth Affrica, ar y ffin rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Wganda yw Mynyddoedd Rwenzori. Newidiwyd yr enw o Mynyddoedd Ruwenzori tua 1980, i gyfateb a'r sillafiad brodorol. Mae'n cynnwys rhai o gopaon uchaf cyfandir Affrica, gyda'r copa uchaf, mynydd Stanley, yn cyrraedd 5,109 m uwch lefel y môr. Y mynyddoedd yma, ynghyd â Mynydd Kilimanjaro a Mynydd Cenia, yw'r unig gopaon yn Affrica lle ceir eira parhaol.
Cred llawer mai'r Rwenzori yw'r mynyddoedd a alwodd y daearyddwr Groegaidd Ptolemi yn "Fynyddoedd y Lleuad", ac fe'i gelwir yn aml wrth yr enw yma; Mountains of the Moon yn Saesneg. Fodd bynnag, nid oes prawf mai'r rhain yw'r mynyddoedd yr oedd Ptolemi yn cyfeirio atynt.
Saif y mynyddoedd ar ochr Dyffryn Hollt Dwyrain Affrica, rhan o'r Dyffryn Hollt Mawr. Maent yn ymestyn am tua 120 km, ac yn 65 km o led. Y prif gopaon yw Mynydd Stanley (5,109m), Mynydd Speke (4,890m), Mynydd Baker (4,843m), Mynydd Emin (4,798m), Mynydd Gessi (4,715m) a Mynydd Luigi di Savoia (4,627m). Gwelwyd y mynyddoedd gan Ewropeaid am y tro cyntaf yn ystod taith fforio Henry Morton Stanley.
Ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion ac anifeiliaid yn y mynyddoedd hyn, ac mae rhan helaeth ohonynt yn awr yn Safle Treftadaeth y Byd. Crewyd Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Rwenzori yn Wganda, a Pharc Cenedlaethol Virunga yn y Congo.