Máirtín Ó Muilleoir MLA | |
---|---|
Aelod o Cynulliad Gogledd Iwerddon dros De Belffast | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 22 Hydref 2014 | |
Rhagflaenwyd gan | Alex Maskey |
Gweinidog dros Gyllid y Wlad | |
Mewn swydd 12 Mai 2016 – 26 Ionawr 2017 | |
Rhagflaenwyd gan | Mervyn Storey |
Dilynwyd gan | Gwag |
58th Arglwydd Faer Belffast | |
Mewn swydd 2 Mehefin 2013 – 2 Mehefin 2014 | |
Rhagflaenwyd gan | Gavin Robinson |
Dilynwyd gan | Nichola Mallon |
Cynghorydd ar Gyngor Dinas Belffast | |
Mewn swydd 2011–2014 | |
Manylion personol | |
Ganed | Martin Millar 1 Ionawr 1959 Belffast, Gogledd Iwerddon |
Dinesydd | Gwyddel |
Plaid gwleidyddol | Sinn Féin |
Priod | Helen O'Hare |
Plant | 4 |
Alma mater | Prifysgol y Frenhines Belffast |
Proffesiwn | Cyhoeddwr, dyn busnes |
Ganwyd Máirtín Ó Muilleoir MLA yn wreiddiol Martin Millar; 1959[1]) ac mae'n wleidydd Sinn Féin, awdur, cyhoeddwr a pherson busnes, a gwasanaethodd fel y 58ed Arglwydd Faer Belfast (2013-14).[2] Mae ganddo ddau frawd, un, Adrian Millar yn awdur, blogiwr a cholofnydd i'r Huffington Post.[3] Mae ei frawd arall Gearóid Ó Muilleoir (Gerry Millar) yn newyddiadurwr a golygydd gyda'r Belfast Telegraph.
Addysgwyd Ó Muilleoir gan Frodyr Cristnogol Y Santes Fair (ysgol ramadeg Gatholig Rufeinig) ac yna ym Mhrifysgol Queen's, Belfast.[4]
Yn 1997, daeth Ó Muilleoir yn rhan-berchennog yr Andersonstown News cyn prynu'r Irish Echo wedi ei leoli'n Efrog Newydd. Fel siaradwr Gwyddelig rhugl, mae ganddo ddiddordebau eraill mewn busnesau Gwyddelig ac Americanaidd. Gweithiodd fel cyfarwyddwr dros dro gyda Northern Ireland Water.[5]
Mentrodd Ó Muilleoir i fyd gwleidyddiaeth yn 1985, pan safodd fel ymgeisydd plaid Sinn Féin tros ardal Upper Falls (ardal etholaethol yng ngorllewin Belfast ac un o naw ardal etholaethol yn y ddinas rhwng 1985 a 2014) ac o drwch blewyn collodd allan ar gael ei ethol.[6]
Yn dilyn genedigaeth ei merch, ymddiswyddodd Pip Glendinning o'r Alliance Party ei sedd ddwy flynnedd yn ddiweddarach yn dilyn etholaeth 1985, enillodd Ó Muilleoir yr is-etholiad ddilynnol ym mis Hydref 1987. Yn ystod ei amser ar y cyngor, cychwynnodd nifer o gamau cyfreithiol dros yr hyn y honnai anffafriaeth tuag at yr Unoliaethwyr a reolodd y cyngor, a manylodd ar y profiadau hyn yn ei lyfr, The Dome of Delight.
Cafodd ei ail-ethol yn etholiadau lleol 1989 a 1993 gan ymddeol yn 1997 i ganolbwyntio ar ei fuddiannau busnes. Yn 1996 bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn etholiad Fforwm Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Down.[7]
Ail-ymunodd â gwleidyddiaeth yn 2011, pan gafodd ei ethol fel Cynghorydd Dinas Belfast tros Balmoral, De Belfast, gan ennill sedd Jim Kirkpatrick, Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, ac etholwyd ef yn Arglwydd Faer yn 2013, yn gwasanaethu tymor un-flwyddyn.[8]
Yn 2014, fe'i gyfetholwyd fel MLA (aelod o gynulliad deddfwriaethol Gogledd Iwerddon) i'r Cynulliad Gogledd Iwerddon.[9] Yn ystod etholiad gyffredinol y Ddeyrnas Unedig yn 2015, ymgeisiodd tros etholaeth De Belfast, ond fe'i drechwyd gan ddeiliad-ymgeisiwr Alasdair McDonnell[10] o blaid y Sosialwyr Democrataidd a Llafur. Ar 12 Mai 2016, fe'i benodwyd yn Weinidog Cyllid yn Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.[11]