Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Médenine ![]() |
Poblogaeth | 479,520 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 9,167 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 33.35472°N 10.50528°E ![]() |
TN-82 ![]() | |
![]() | |
Talaith yn ne-ddwyrain Tiwnisia yw talaith Médenine. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir gan ffinio ar daleithiau Tataouine a Gabès yn Nhiwnisia ei hun a Libia i'r dwyrain. Ei phrifddinas yw Medenine, yng ngogledd-orllewin y dalaith.
Ceir tir gweddol ffrwythlon ar hyd yr arfordir, sy'n cynnwys ynys enwog Djerba, un o brif ganolfannau twristiaeth Tiwnisia. Ond i ffwrdd o Djerba, ar y tir mawr, mae'r wlad yn cael ei dominyddu gan fryniau isel lled anial sy'n ymestyn i'r de i gyfeiriad y Grand Erg Oriental, anialwch mawr tywodlyd sy'n rhan o'r Sahara.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Medenine, Zarzis, Ben Guerdane a Jorf. Lleolir dinas Rufeinig Gigthis ar yr arfordir cyferbyn â Djerba.
Taleithiau Tiwnisia | ![]() |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan |