NGC 7793 | |
---|---|
NGC 7793 | |
Data arsylwi (J2000 epoc) | |
Cytser | Sculptor |
Esgyniad cywir | 23h 57m 49.8s[1] |
Gogwyddiad | −32° 35′ 28″[1] |
Rhuddiad | 227 ± 2 km/e[1] |
Pellter | 12.7 ± 1.3 Mly (3.9 ± 0.4 Mpc)[2][3][4] |
Maint ymddangosol (V) | 10.0[1] |
Nodweddion | |
Math | SA(s)d[1] |
Maint ymddangosol (V) | 9′.3 × 6′.3[1] |
Dynodiadau eraill | |
PGC 73049[1] |
Mae NGC 7793 yn galaeth droellog clystyrol tua 12.7 miliwn o flynyddoedd golau oddi wrth y Ddaear yn y cytser Sculptor. Fe'i darganfuwyd ym 1826 gan James Dunlop.[5]
Mae NGC 7793 yn un o'r galaethau mwyaf disglair o fewn Grŵp Sculptor, grŵp o alaethau yng nghytser Sculptor. Mae'r grŵp ei hun yn grŵp hirgul o alaethau ar wasgar gyda Galaeth Sculptor (NGC 253) a'i cymar galaethau yn ffurfio craidd o alaethau yn dynn at ei gilydd ger y canol.[2]
Ar 25 Mawrth 2008, darganfuwyd SN 2008bk yn NGC 7793.[6] Gyda maint ymddangosol o 12.5, daeth yn ail uwchnofa mwyaf disglair 2008.[7] Hynafiad yr uwchnofa oedd Gorgawr Coch a welwyd dim ond 547 diwrnod cyn y ffrwydrad.
Mae jetiau o dwll du o'r enw P13 yn pweru nifwl mawr o'r enw S26 o fewn troell allanol yr alaeth hon. Yn ddiweddar, penderfynwyd bod màs P13 yn llai na 15 màs solar, ac amcangyfrifir bod ei gymar seren tua 20 màs solar. Mae'r ddau yn cylchdroi ei gilydd mewn 64 diwrnod.[8] Yn seiliedig ar yr amcangyfrif hwn, mae P13 yn tynnu deunydd oddi wrth seren gyfagos tua deg gwaith yn gyflymach nag y credwyd yn flaenorol bod ffiseg yn ei ganiatáu. Os yw'n gywir, byddai'r arsylwad hwn yn dangos diffygion mewn damcaniaethau bod perthynas sefydlog rhwng màs twll du a'r raddfa mae'n dinistrio gwrthrychau o'i amgylch.[9][10]