Natalie Bennett | |
---|---|
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 3 Medi 2012 | |
Dirprwy | Will Duckworth Amelia Womack Shahrar Ali |
Rhagflaenwyd gan | Caroline Lucas |
Manylion personol | |
Ganwyd | Sydney, Awstralia | 10 Chwefror 1966
Plaid wleidyddol | Plaid Werdd Cymru a Lloegr |
Cymar | Jim Jepps |
Alma mater | Prifysgol Sydney Prifysgol New England Prifysgol Caerlŷr |
Newyddiadurwraig a gwleidydd o Awstralia yw Natalie Louise Bennett (ganwyd 10 Chwefror 1966), sydd bellach yn arwain y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr. Fe'i hetholwyd i arwain Plaid Werdd Cymru a Lloegr ar 3 Medi 2012.[1][2]
Mae Bennett wedi dweud ei bod yn ffeminist ers ei phlentyndod.[3] Sefydlodd grŵp merched y Blaid Werdd a bu'n weithgar gyda'r Fawcett Society rhwng 2010 a 2014. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ecoleg a chynaladwyedd ers iddi astudio amaethyddiaeth ar gyfer ei gradd.[4] Mae hefyd o blaid diddymu Brenhiniaeth Prydain.[5]
Ar 3 Medi 2012, penodwyd Natalie Bennett yn Arweinydd y Blaid Werdd yn lle Caroline Lucas.[6] Yn ei chyfarfod cyntaf gyda'r wasg mynegodd y farn mai'r "unig ffordd ymarferol ymlaen i bobl Prydain" oedd y Blaid Werdd.[2] Ym Mai 2024 fe'i henwebwyd i ymladd dros sedd Holborn a St Pancras yn Nhŷ'r Cyffredin.[7]
Yn Ionawr 2015 disgrifiodd gyfweliad a gafodd fel un "hynod o boenus".[8]
Yn yr un mis, penderfynodd Ofcom beidio â chynnwys Plaid Werdd Cymru a Lloegr yn y dadleuon gwleidyddol a oedd i'w darlledu ychydig wythnosau cyn Etholiad Cyffredinol 2015. Canlyniad hyn oedd cynnydd aruthrol yn y gefnogaeth i'r Blaid Werdd a dywedodd Bennett fod penderfyniad Ofcom "yn warthus ac yn gywilyddus".[9] Dywedodd y prif weinidog, David Cameron, ei fod yn berffaith hapus i'r ddadl gynnwys y Blaid Werdd, ac na fyddai yntau'n cymryd rhan ynddi, onibai ei bod hefyd yn cael gwahoddiad.[10][11] Newidiodd Ofcom ei benderfyniad a chaniatawyd i'r Blaid Werdd fod yn rhan o'r dadleuon cyn yr etholiad a chynyddodd y gefnogaeth i'r blaid unwaith yn rhagor.[12] Cynhaliwyd y cyntaf o'r dadleuon hyn ar 2 Ebrill 2015, gyda Bennett yn cynrychioli'r Blaid Werdd.
Rhagflaenydd: Caroline Lucas |
Arweinydd y Blaid Werdd 3 Medi 2012 – presennol |
Olynydd: deiliad |