Ncuti Gatwa | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Mizero Ncuti Gatwa ![]() 15 Hydref 1992 ![]() Kigali ![]() |
Man preswyl | Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor llwyfan ![]() |
Actor Rwandaidd-Albanaidd yw Mizero Ncuti Gatwa (/ˈʃuːti ˈɡætwɑː/ SHOO-tee GAT-wah[1]; ganwyd 15 Hydref 1992). Daeth i amlygrwydd fel Eric Effiong ar y gyfres gomedi-ddrama Sex Education ar Netflix, a enillodd iddo Wobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu a thri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau.[2][3][4][5][6] Yn 2022, cyhoeddwyd Gatwa fel ymgnawdoliad newydd o gymeriad y Doctor ar y gyfres BBC Doctor Who, sy'n golygu mai ef yw'r actor du cyntaf i arwain y gyfres.[7]
Ganed Gatwa yn Nyarugenge, Kigali, Rwanda, ar 15 Hydref 1992. [8][9] Mae ei dad, Tharcisse Gatwa, o Ardal Karongi yn Rwanda, yn newyddiadurwr gyda PhD mewn diwinyddiaeth.[10][11]
Yn ddiweddarach dihangodd y teulu o Rwanda yn ystod hil-laddiad Rwanda yn 1994 gan ymgartrefu yn yr Alban.[12] Buont yn byw yng Nghaeredin a Dunfermline. Mynychodd Gatwa Ysgol Uwchradd Boroughmuir ac Ysgol Uwchradd Dunfermline cyn symud i Glasgow i astudio yn y Royal Conservatoire of Scotland, gan raddio gyda BA mewn Actio yn 2013.[13][14]
Ar ôl graddio, cafodd Gatwa ei dderbyn ar gynllun actorion graddedig y Dundee Repertory Theatre yn Dundee, yr Alban lle bu'n perfformio mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Victoria gan David Greig.[15][16] Cafodd rôl fychan yn y comedi sefyllfa Bob Servant yn 2014 oedd wedi ei leoli a'i ffilmio yn Dundee.[17]
Yn 2015, ymddangosodd mewn rôl gefnogol yn y gyfres fer Stonemouth, addasiad o nofel o'r un enw o 2012. Yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad Kneehigh Theatres o 946, a addaswyd o The Amazing Story of Adolphus Tips gan Michael Morpurgo. Roedd y stori yn adrodd hanes yr ymarferion ar gyfer glaniad D-Day yn Nyfnaint lle bu nifer o farwolaethau.[18] Chwaraeodd Gatwa ran Demetrius yng nghynhyrchiad 2016 o A Midsummer Night's Dream yn theatr Glôb Shakespeare; a gyfarwyddwyd gan Emma Rice.[19]
Ym mis Mai 2018, cafodd Gatwa ei gastio yng nghyfres ddrama gomedi Sex Education ar Netflix fel Eric Effiong.[17] Rhyddhawyd y sioe yn 2019 a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid.[20] Derbyniodd Gatwa ganmoliaeth am ei bortread o Eric gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, yn enwedig am y modd na chafodd ei gymeriad ei bortreadu fel ystrydeb o "gymeriad stoc o ffrind gorau du neu hoyw".[3][4] Mae wedi ennill clod eang am y rôl, sy’n cynnwys ennill Gwobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu yn 2020, ac ennill tri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau, un yn 2020, 2021 a 2022 yn olynol.[2][3][4][5][6]
Ar 8 Mai 2022, cyhoeddwyd bod Gatwa wedi’i gastio yn Doctor Who fel 15eg ymgnawdoliad o brif gymeriad y sioe, y Doctor.[21] Cafodd Gatwa gafodd ei gastio ym mis Chwefror,[22] ac ef fydd yr actor du cyntaf i chwarae'r cymeriad fel prif ran. Cyn hynny portreadwyd y 'Fugitive Doctor' gan y fenyw ddu Jo Martin mewn rhai penodau o gyfres 12 yn 2020.[23] Ar ddiwedd 2023 darlledwyd tair pennod arbennig ar gyfer pen-blwydd 60 mlynedd y sioe, gyda David Tennant yn dychwelyd yn y rhan. Erbyn diwedd y drydedd bennod, cyflwynwyd Gatwa fel y Doctor newydd, gan ymrannu oddi wrth y Doctor blaenorol. Bydd yn parhau mewn pennod Nadolig cyn ymddangos mewn cyfres llawn.[24]
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2019 | Horrible Histories: The Movie – Rotten Romans | Timidius | |
2021 | The Last Letter from Your Lover | Nick | |
2023 | Barbie | Artist Ken |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014 | Bob Servant | Male Customer | 1 pennod |
2015 | Stonemouth | Dougie | 2 pennod |
2019–2023 | Sex Education | Eric Effiong | Prif ran; 32 pennod |
2023- | Doctor Who | Y Doctor | Prif ran |
2024 | Masters of the Air | 2il Lt. Robert Daniels | 3 pennod |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2022 | Grid Legends | Valentin Manzi | Llais a chipio symudiad |